Ymddengys bod gofyn i landlordiaid 19 o dafarndai Brains ddod yn hunangyflogedig ar ôl i gwmni Marston gymryd drosodd yn gynharach eleni.

Cymerodd Marston awenau’r bragdy o Gaerdydd ym mis Chwefror, gan gynnwys ei dafarndai – a fydd yn parhau i weithredu o dan frand Brains.

Nawr mae’r cwmni’n gwneud newidiadau i’r ffordd mae rhai o’r tafarndai’n cael eu rhedeg.

Yn hytrach na chyflogi staff tafarn yn uniongyrchol, mae Marston’s yn gofyn i reolwyr mewn 19 tafarn lofnodi cytundeb masnachfraint, gan ddod yn hunangyflogedig i bob pwrpas.

Nid yw’r cwmni’n fodlon ateb cwestiynau ynglŷn â pha rai o’r mwy na 100 o dafarndai Brains fydd yn cael eu heffeithio.

Ond mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi codi pryderon bod rheolwyr sydd wedi eu heffeithio yn honni mai dim ond saith diwrnod sydd ganddyn nhw i benderfynu bod yn hunangyflogedig, cyn i’r cwmni geisio recriwtio rhywun newydd.

“Mae rhedeg tafarn fel rheolwr yn rôl gyflogedig. Nid yw hyn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl ac mae’n annheg,” meddai Chris Wright, cyfarwyddwr Gwasanaeth Cynghori’r Tafarndai.

“Pam mae’n digwydd i’r rheolwyr Brains hyn? Mae gen i reolwyr tafarn yn fy ffonio mewn dagrau.

“Maen nhw dan straen a ddim yn gwybod beth i’w wneud.”

“Busnes cynaliadwy”

Dywedodd llefarydd ar ran Marston’s “Mae hyn yn ymwneud â 19 o’r 107 o dafarndai a gymerwyd gennym ym mis Chwefror 2021 – hynny yw, llai nag 20% o’r tafarndai gan effeithio ar lai nag 20 y cant o’r gweithwyr.

“O’r rhai yr effeithiwyd arnynt, gallai unrhyw swyddi a gollir fod hyd at 10–20 y cant o’r nifer hwnnw, mewn termau real bydd hyn yn gyfystyr â thua 20–30 o swyddi staff bar ar draws y tafarndai yr effeithir arnynt.

“Rhain yw’r tafarndai a oedd yn tanberfformio o dan y system flaenorol ac rydym wedi nodi model gwell, tymor hir, i gynnal busnes cynaliadwy ar gyfer y dafarn.”

Galw ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i weithredu

Dywedodd Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Rhys ab Owen: “Mae agwedd Marston yn ymddangos yn llawdrwm pan ddaw’n fater o’r cytundebau hyn.

“Mae’r straeon rwyf wedi’u clywed gan reolwyr cyffredinol, gyda blynyddoedd o wasanaeth, yn cael eu diystyru, yn ofnadwy.

“Byddaf yn parhau i weithio gyda’m hetholwyr fel bod eu gwasanaeth i’w cymunedau lleol yn cael ei barchu, a’r ofn o ddiswyddo ar unwaith yn cael ei ddileu.

“Rwy’n galw ar lywodraethau yng Nghymru a San Steffan i adolygu sut y gall y sefyllfaoedd hyn ddigwydd.”

Ond mae Marston yn mynnu mai “penderfyniad yr unigolyn ydi derbyn y cytundeb”.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni: “Mae eu hawliau cyflogaeth yn cael eu diogelu ac maent hefyd yn cael cyfle i ystyried cyfleoedd eraill ar draws ein busnes, ac os byddant yn llwyddiannus, byddai eu cyflogaeth yn parhau heb ei heffeithio.”

Cefndir

Dechreuodd Marston ei fodel masnachfraint yn 2009.

Mae mwy na 600 o dafarndai Marston yng Nghymru a Lloegr bellach yn defnyddio’r model hwn.

Cyn y pryniant, roedd Marston eisoes yn rhedeg 106 o dafarndai yng Nghymru dan fodelau a reolir, masnachfraint a thenantiaid a phrydlesu.

Dywedodd y cwmni ei fod wedi buddsoddi dros £50 miliwn mewn 18 tafarn newydd yng Nghymru gan greu bron i 1,000 o swyddi.

Ychwanegodd y llefarydd: “Ein hymrwymiad hirdymor yw gweithredu 107 o safleoedd, ac rydym yn credu bod hon yn ystâd ardderchog o dafarndai gyda lle i fuddsoddi, lle am dwf a chyfle i greu swyddi ychwanegol.

“Rydym eisoes wedi buddsoddi £3 miliwn yn ystâd tafarndai Brains ers mis Chwefror er gwaethaf y cyfyngiadau parhaus a osodwyd o ganlyniad i bandemig Covid-19.”