Mae Ben Lake, yr Aelod Seneddol dros Geredigion, yn arwain ymgyrch yn galw am gefnogaeth am ddim gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fwy o gwmnïau lleol y sir allu manteisio ar gyfleoedd allforio.

Trwy drefnu cyfres o ddigwyddiadau yn ystod 2021, mae Ben Lake yn ceisio helpu busnesau yng Ngheredigion i ddarganfod sut mae’n bosib dechrau masnachu’n rhyngwladol, neu gwella eu busnes.

Bydd y digwyddiadau hefyd yn dangos i fusnesau sut y gallan nhw gael cefnogaeth am ddim gan y llywodraeth i wneud hynny.

Mae Ben Lake yn gweithio gyda’r Adran Masnach Ryngwladol a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Allforio Seneddol, i helpu busnesau lleol i ddod o hyd i’r gefnogaeth sydd angen arnyn nhw i hybu eu potensial allforio.

Mae e’n un o sefydlwyr y Rhaglen Allforio Seneddol, lle mae Aelodau Seneddol o bob plaid yn trefnu ac yn cadeirio cyfarfodydd gydag arbenigwyr o fyd busnes a’r llywodraeth.

“Helpu busnesau lleol”

“Un o fy mhrif flaenoriaethau yw helpu busnesau lleol i oroesi ac atgyfnerthu yn dilyn y pandemig.

“Dyna pam rwy’n falch iawn o fod yn cynnal digwyddiadau a all arbed swyddi lleol a rhoi mynediad i fusnesau yng Ngheredigion i wybodaeth, cyngor a chyllid i gael marchnad ryngwladol.

“Rwy’n benderfynol o sicrhau nad yw ein hardal yn llusgo tu ôl, a bod pa bynnag wasanaethau sydd ar gael yn cael eu darparu yma i’n helpu i godi yn ôl ar ein traed yn dilyn Covid.

“Mae’r digwyddiadau rwy’n eu trefnu yn rhad ac am ddim a’r cyfan sy’n rhaid i bob busnes yn fy etholaeth ei wneud yw cofrestru.

“Bydd arbenigwyr ac allforwyr profiadol ar-lein i ddarparu cyngor am ddim gan gynnwys ar gyfalaf gweithio a gefnogir gan y llywodraeth ac ymarferoldeb masnach ôl-Brexit.”

Yn ddiweddar, dywedodd cwmni Jin Talog wrth golwg360 fod eu marchnad Ewropeaidd wedi “diflannu” yn sgil Brexit.

Marchnad Ewropeaidd cwmni Jin Talog o Sir Gaerfyrddin wedi “diflannu” yn sgil Brexit

Yn ôl un o’r perchnogion, maen nhw wedi colli’r holl farchnad yn sgil y costau ychwanegol y maen rhaid i gwsmeriaid dalu