Mae’r unig bapur newydd mawr yn yr Alban a oedd o blaid annibyniaeth i’r Alban wedi cynyddu ei gylchrediad i dros 64%.

Mae’r Sunday Herald wedi gweld cynnydd syfrdanol gyda’i gylchrediad yn cyrraedd 50,000 o gopiau ar y penwythnos cyn y bleidlais ym mis Medi.

Profodd ei chwaer bapur, yr Herald, gynnydd sylweddol yn dilyn y bleidlais gyda gwerthiant yn codi 7,500 y diwrnod wedyn a naid bellach o 10,000 erbyn y diwrnod canlynol.

Mae defnyddwyr gwefan y papurau wedi cynyddu hefyd a’r nifer sy’n prynu copi digidol o bapur yr Herald.

‘Effaith barhaol’

“Mae’r refferendwm wedi cael effaith barhaol ar ymwneud Albanwyr gyda’r ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd,” meddai Tim Blott, rheolwr gyfarwyddwr y grŵp papurau.

Adeg y refferendwm ei hun, roedd rhai o’r papurau gwrth-annibyniaeth hefyd yn dweud bod cylchrediad ar i fyny, er o lai na’r Herald.