Heddiw daeth y cyhoeddiad na fydd banc RBS yn rhannu’n ddau i greu banc ‘da’ a banc ‘gwael’.
Yn hytrach, fe fydd y banc yn creu banc ‘gwael’ mewnol gan amgáu £38bn o asedau gwael fel benthyciadau nad yw’n disgwyl i gael eu had-dalu.
Roedd RBS yn un o’r banciau gafodd eu hachub gan Lywodraeth Prydain bum mlynedd yn ôl am ei fod mewn trafferthion ariannol difrifol.
Mae’r llywodraeth yn dal i fod yn berchen ar 81% o’r banc.
Heddiw cyhoeddodd y banc eu bod wedi gwneud colled cyn treth o £634m yn y tri mis hyd 30 Medi. Ond dywedodd y Canghellor, George Osborne, y byddai trefniant newydd y banc yn helpu “hybu economi Prydain yn hytrach na bod yn fwrn arno”.