Mae awyrennau Israel wedi ymosod ar ganolfan arfau yn Syria lle’r oedd taflegrau o Rwsia.
Yn awr y mae’r newyddion yn dod am yr ymosodiad yn hwyr nos Fercher ym mhorthladd Latakia pan ddinistrwyd rhai o’r taflegrau.
Daw’r ymosodiad ddiwrnod wedi i sylwebwyr rhyngwladol ddweud bod Syria wedi cwblhau’r gwaith o ddinistrio offer cynhyrchu arfau cemegol.
Heddiw oedd y dyddiad a gafodd ei bennu i gyflawni’r gwaith gan un o gyrff y Cenhedloedd Unedig.
Dim rhagor o gynhyrchu
Fydd Syria bellach ddim yn gallu cynhyrchu arfau cemegol newydd ond nid yw’r llywodraeth yn Damascus wedi dechrau dinistrio’r arfau sydd eisoes wedi’u cynhyrchu.
Mae arolygwyr wedi cael gorchymyn gan y Cenhedloedd Unedig i ddinistrio holl arfau cemegol Syria erbyn canol 2014.