Yr athrawon newydd gyda rhai o'r plant
Mae tair athrawes yn tynnu at ddiwedd eu tymor cynta’ yn Ysgol Gymraeg Llundain. A’r peth rhyfedd yw fod y tair wedi symud gyda’i gilydd yr un pryd o’r un ysgol yng Nghaerdydd. Ydy’r fath beth wedi digwydd erioed o’r blaen?

O brifddinas i brifddinas, mae Julie Sullivan, Rachel Rawlins a Nia Bryant wedi teithio ar hyd yr M4 i ymgymryd ag un o’r heriau addysgu mwyaf anghyffredin yn unrhyw le ym Mhrydain.

Yng nghysgod Stadiwm Wembley, mae’r tair yn addysgu 44 o blant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac mae’n rhaid i Ysgol Gymraeg Llundain ddiolch i un ysgol yng Nghaerdydd – Ysgol Gymraeg Glantaf –  am ei staff addysgu newydd i gyd.

Dechreuodd y tair ar eu gyrfa addysgol yn yr un ysgol yng Nghaerdydd.  Erbyn hyn, nhw yw’r unig dair athrawes mewn ysgol “bentref” unigryw yn Llundain.

‘Ysgol bentref’ Llundain

Julie Sullivan yw pennaeth newydd Ysgol Gymraeg Llundain a dyma ddywedodd hi: “Mae’n wych gallu symud i Lundain a dal i ddefnyddio’r iaith Gymraeg bob dydd.  Mae gan Ysgol Gymraeg Llundain deimlad cryf o gymuned, fel ysgol bentref Gymraeg wedi’i chludo i galon Llundain.”

Ar hyn o bryd, caiff yr ysgol ei chyllido drwy ffioedd a chymorthdaliadau. Ond mae’r tair athrawes o Gaerdydd yn gobeithio llywio Ysgol Gymraeg Llundain i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg o fewn strategaeth “free school” (ysgol di-dâl) a’i chyllido gan y wladwriaeth.

Mae’r athrawon wedi ymgymryd â mwy nag unrhyw un o’u rhagflaenwyr, gyda meithrinfa lawn amser yn awr yn rhan o’r ysgol.  Sefydlwyd yr ysgol dros hanner canrif yn ôl.