Dylan Iorwerth, cyn-ddisgybl, sy’n trio meddwl am ateb…
O’r holl broblemau sy’n wynebu ein llywodraethau ni, un o’r rhai anodda’ ydi addysg ac ailagor ysgolion.
Ar un llaw, mae’r peryglon o gael plant yn tyrru at ei gilydd, heb i ni wybod pa mor gyffredin ydi’r haint yn eu mysg nhw na pha mor hawdd ydi ei drosglwyddo – a hynny, felly, yn cynnwys yr oedolion fydd yn ymwneud â nhw yn yr ysgol ac ar y ffordd yno.
Ar y llaw arall, mae’r peryglon fod plant, yn enwedig rhai llai breintiedig, yn colli gafael ar eu haddysg, fod rhai ohonyn nhw mewn peryg yn eu cartrefi, a bod problemau iechyd meddwl a lles cyffredinol ar gynnydd.
Hyd yma, mi fuodd y drafodaeth – yn Lloegr beth bynnag – ynghylch dod â blynyddoedd cyfan yn ôl, gan gynnwys y plant lleia’ a fydd yn methu ag amgyffred y syniad o bellhau.
Gan fy mod i’n gwybod cymaint am addysg â’r rhan fwya’ o’r gwleidyddion sy’n gwneud y penderfyniadau, dyma gynnig un syniad bach a allai helpu i bontio rhwng y ddau beryg.
Cymerwch ddosbarth cynradd o 30 o blant. Petai chwech o blant yn dod i mewn am ddiwrnod ar y tro, mi allai pob un gael diwrnod o ysgol bob wythnos tros gyfnod y cloi.
Mi fyddai hynny’n rhoi cyfle i ystyried eu diogelwch a’u lles cyffredinol, ar un llaw, ac yn rhoi cyfnod dwys o addysg iddyn nhw, pan allai athrawon ganolbwyntio ar anghenion y plant unigol.
Ar ben hynny, mi fyddai’n ffordd o annog a chadw llygad ar y dysgu sydd i fod i ddigwydd gartre’ ac sydd, unwaith eto, yn haws i rieni cyfforddus eu byd.
Mewn ysgolion uwchradd, efallai y byddai’n rhaid trefnu system debyg o amgylch pynciau yn hytrach na dosbarthiadau – grwpiau bychain yn cael addysg ddwys yn eu tro. Mi fyddai’n fwy cymhleth i’w weithio, efallai, ond nid yn amhosib, siawns.
Efallai nad dyna’r ateb ac efallai y bydd athrawon a phenaethiaid yn gweld y gwendidau’n syth … ond, rhywsut, mae’n rhaid ystyried syniadau heblaw’r rhai cwbl syml o gael blynyddoedd yn ôl yn eu crynswth.