Y Cofiadur yw trefnydd yr Orsedd (Llun: Golwg360/Sion Richards)
Mae Cofiadur Gorsedd y Beirdd wedi dweud y bydd yn ymddeol o’i rôl wedi Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni.

Mewn cyfweliad â golwg360, mae Penri Roberts yn dweud bod yr amser wedi dod i “roi cyfle i rywun arall” wedi bron i wyth blynedd yn y swydd.

“Fydda’ i wedi gwneud wyth Eisteddfod erbyn mis Awst ac mae rhywun yn dod i ryw gyfnod lle mae’n meddwl, ‘wel, dyna fo,” meddai.

Theatr Maldwyn

Wedi iddo ail-sefydlu Cwmni Theatr Maldwyn, mae’n dweud bod prysurdeb hynny wedi ychwanegu at ei benderfyniad i adael hefyd.

“Dw i wedi ail-sefydlu Cwmni Theatr Maldwyn a dw i’n rhedeg Ysgol Theatr Maldwyn, mae gynnon ni sioeau ymlaen rŵan ac ryden ni’n dueddol o roi sioeau ymlaen tua’r amser yma o’r flwyddyn, ac mae o’r amser mwya’ prysur o ran fy ngwaith i fel Cofiadur.

Dywedodd Penri Roberts ei fod wedi mwynhau gweithio gyda swyddogion, Bwrdd yr Orsedd ac aelodau’r Orsedd – gan gynnwys y tri Archdderwydd yn ystod ei gyfnod fel Cofiadur – Jim Parc Nest, Christine James a Geraint Llifon.

Rhoi “pawb ar yr un lefel”

Ei falchder penna’ wrth edrych yn ôl oedd fod trefn gwisgoedd yr Orsedd wedi newid yn ystod ei gyfnod – gan ddod i ben â’r “hierarchaeth” rhwng gwisgoedd gwyn, gwyrdd a glas.

“Yr un peth dw i’n teimlo’n fwyaf balch ohono fo na dim byd ydy bod ni wedi newid trefn yr Urddau yn yr Orsedd, sef bod pawb rŵan ar yr un un gwastad.

“Y dyddiau a fu, roedd yna fath beth ag Urdd Ofydd ac Urdd Derwydd, ac roedd math o hierarchaeth. Does ‘na ddim rŵan, mae pawb ar yr un lefel. Boed chi’n wyn, yn wyrdd neu’n las – rydach chi’n Urdd Derwydd. Mae hwnna’n un o’r pethau dw i’n fwyaf balch ohono fo.”

Beirniadaeth dros beidio urddo chwaraewyr Cymru

Wedi llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn rowndiau terfynol cystadleuaeth Ewro 16 y llynedd, fe gafodd yr Orsedd ei beirniadu am beidio ag urddo’r holl chwaraewyr – roedd y feirniadaeth yn “dangos diffyg gwybodaeth” yn ôl y Cofiadur.

“Unigolion y mae’r Orsedd yn urddo er anrhydedd, nid grwpiau na thimau,” ychwanegodd.

“Be’ oedd yn anffodus oedd nad oedd pobol yn sylweddoli bod ceisiadau I bobol gael eu hurddo er anrhydedd yn gorfod dod i mewn erbyn diwedd mis Chwefror … wel doedd tîm pêl-droed Cymru ddim hyd yn oed wedi chwarae tan fis Mehefin.