Theresa May (JOnathan Bradyu/PA Wire)
Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill rheolaeth dros bum cyngor ac mae Llafur wedi colli rheolaeth dros ddau wedi cyhoeddi canlyniadau cynta’r etholiadau lleol a maerol ar draws gwledydd Prydain.
Yn ogystal ag ennill cynghorau mae’r Ceidwadwyr wedi llwyddo ennill yr etholiad maerol yng Ngorllewin Lloegr ac wedi elwa wrth i gefnogaeth UKIP chwalu.
Mae llefarydd Trysorlys y Blaid Lafur, John McDonnell, wedi cydnabod iddi fod yn noson “galed” ond nad oedd hi’n drychineb fel yr oedd llawer wedi’i ddisgwyl.
Tactegau May yn gweithio?
O ran yr Etholiad Cyffredinol a thactegau Prif Weinidog Prydain, Theresa May, mae yna newyddion da i’r Blaid Geidwadol, wrth iddi ennill tir yn gyffredinol.
Mae UKIP hefyd wedi colli pob un o’i seddi hyd yn hyn a’r gefnogaeth honno’n mynd i’r Ceidwadwyr – elfen a allai fod yn allweddol ym mis Mehefin.
Er fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi codi ychydig, dydyn nhw ddim wedi ennill llawer o dir yn ôl yn ne-orllewin Lloegr lle’r oedd eu colledion mawr a mwya’ annisgwyl yn Etholiad Cyffredinol 2015.
Edrych ar yr Alban
Fe fydd Llafur a’r Ceidwadwyr hefyd yn edrych yn ofalus ar yr Alban lle mae’r cyfri’n dechrau ym mhob cyngor sir yno.
Mae plaid genedlaethol yr SNP yn gobeithio cipio grym oddi ar Lafur yn Glasgow am y tro cynta’ a’r Ceidwadwyr yn chwilio am arwyddion eu bod nhw ar y ffordd yn ôl ac eisiau disodli Llafur yn yr ail le.