Caerdydd - buddugoliaeth fwya'r Blaid Lafur (Ashley 0690 CCA3.0)
Y diweddara’ – Mae’r bore cynnar wedi gorffen yn dda i’r Ceidwadwyr wrth gipio seddi ym Mro Morgannwg a mwy na dyblu nifer eu cynghorwyr.
Fe gollodd Plaid Cymru seddi wrth i’r Toriaid gipio’r bedair yn yr un ward oedd yn weddill – Dinas Powis.
Mae’n golygu fod ganddyn nhw bellach 23 o seddi – cynnydd o 12 – digon bron i reoli’r cyngor yn ardal Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.
Llafur yn cadw Caerdydd
Gyda rhai seddi’n weddill, mae Llafur wedi gwneud digon i ddal grym yng Nghaerdydd ac, efallai, gryfhau.
Gyda rhai seddi eto i’w cyfri, maen nhw wedi ennill 38 o’r 75 sedd, llawer gwell na’r disgwyl.
Ym Mro Morgannwg, mae seddi Dinas Powis yn weddill oherwydd ailgyfri’ a’r Ceidwadwyr eisoes yn gwybod mai nhw fydd y blaid fwya’, gan ennill wyth sedd, yn benna’ oddi ar Lafur.
Yn etholiadau cyngor sir Cymru, roedd hi’n noson gymysg i’r pleidiau i gyd.
- Llafur – wedi colli gafael ar Flaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr ac, efallai, ar Ferthyr, ond yn gwneud yn well na’r disgwyl hyd yn hyn yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Abertawe.
- Ceidwadwyr – yn ennill tir mewn sawl man, gan gynnwys Pen-y-bont ac yn cipio grym yn Sir Fynwy, ond yn methu ag ennill yn y dinasoedd.
- Plaid Cymru – ambell berfformiad cry’, er enghraifft yng Nghastell Nedd Port Talbot ond dim enillion syfrdanol.
- Annibynnol – cryfhau’n gyffredinol ac yn cipio Blaenau Gwent.
- Democratiaid Rhyddfrydol – yn colli ychydig o dir.
Dyma’r canlyniadau llawn hyd yn hyn
Abertawe
Rhyddhad mawr i Lafur, gan ddal gafael mewn grym a dim ond cynnydd bach i’r Ceidwadwyr, yn benna’ ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol.
Llafur 48 (-1)
Ceidwadwyr 8 (+4)
Dem Rhydd 7 (-5)
Arall 9 (+2)
Blaenau Gwent
Roedd yr AC lleol. Alun Davies, yn siomedig wrth i Lafur golli rheolaeth. Yr Annibynwyr sydd bellach yn rheoli a’r arweinydd Llafur, Brendan Toomey, wedi colli ei sedd.
Annibynnwyr 26 (+14)
Llafur 12 (-17)
Plaid Cymru 1 (+1)
(Heb gynnwys ward Blaina eleni)
Bro Morgannwg
Ceidwadwyr 23 (+12)
Llafur 14 (-7)
Annibynnol 6 (-1)
Plaid Cymru 4 (-3)
UKIP 0 (-1)
Casnewydd
Dyma ardal lle’r oedd y Ceidwadwyr yn disgwyl gwneud yn dda, gyda llygad ar y ddwy sedd yn yr Etholiad Cyffredinol … ond fe lwyddodd Llafur i ddal ei thir yn weddol.
Llafur 31 (-6)
Ceidwadwyr 12 (+2)
Annibynnol 5 (+3)
Dem Rhydd 2 (+1)
Castell Nedd Port Talbot
Dyma berfformiad cryfa’ Plaid Cymru cyn y cyfri’ yn eu cadarnleoedd, gan ddechrau wneud marc yn ardal Port Talbot. Ond maen nhw’n dal i fod yn wannach nag ar ddechrau’r Milenniwm.
Llafur 45 (-7)
Plaid Cymru 15 (+7)
Annibynnol 5
Dem Rhydd 1 (+1)
Ceredigion
Mae’r arweinydd, Elen ap Gwynn, eisoes wedi dweud y bydd rhaid i Blaid Cymru gydweithio er mwyn parhau i arwain y cyngor
Plaid Cymru 19
Annibynnol 13 (-1)
Dem Rhydd 8 (+1)
Llafur 1
Gwag 1
Merthyr Tudful
Mae’r canlyniad yn y fantol, gyda thair sedd i’w penderfynu ymhen y mis, ar ôl marwolaeth un ymgeisydd. Ond mae Llafur wedi colli’n drwm ac mewn peryg o golli rheolaeth.
Llafur 14 (-9_
Annibynnol 16 (+7)
UKIP 0 (-1)
Pen-y-bont ar Ogwr
Colled drom i Lafur, yn ardal Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Cynnydd anferth i’r Ceidwadwyr, efallai o ganlyniad i ymweliad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.
Llafur 26 (-13)
Ceidwadwyr 11 (+10)
Annibynnol 13 (+3)
Plaid Cymru 3 (+2)
Dem Rhydd 1 (-2)
Sir Fynwy
Y Ceidwadwyr yn cryfhau digon i allu rheoli heb gymorth y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ceidwadwyr 26 (+7)
Llafur 10 (-2)
Annibynnol 5 (-5)
Dem Rhydd 3
Sir y Fflint
Dyma ardal lle mae Llafur yn fregus yn yr Etholiad Cyffredinol, ond roedd y canlyniad yn galonogol iawn iddyn nhw a’r Ceidwadwyr yn colli tir.
Llafur 34 (+3)
Annibynnol 23 (+4)
Ceidwadwyr 6 (-2)
Dem Rhydd 5 (-2)
Eraill 2 (-2)
Plaid Cymru 0 (-1)
Torfaen
Yn wahanol i’w cymdogion ym Mlaenau Gwent, fe wnaeth Llafur yn dda a Phlaid Cymru’n colli ychydig o dir.
Llafur 29 (-1)
Annibynnol 11 (+3)
Ceidwadwyr 4
Plaid Cymru 0 (-2)
Wrecsam
Yr Annibynwyr bellach yw’r garfan fwya’, gan ddisodli Llafur, a gafodd golledion trwm. Roedd enillion bach i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr.
Annibynnol 27 (+8)
Llafur 11 (-12)
Ceidwadwyr 9 (+4)
Plaid Cymru 3 (+2)
Dem Rhydd 2 (-2)