Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau 11 unigolyn fydd yn derbyn anrhydedd am eu gwaith.
Bydd unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau oes i’r celfyddydau, y gwyddorau a byd busnes yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd.
Bydd y dynion a menywod o feysydd amrywiol yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Bangor ac yn derbyn yr anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol rhwng 17-21 Gorffennaf.
Ymysg yr un ar ddeg fydd yn derbyn y wobr mae’r Athro Gareth Ffowc Roberts sydd yn awdur llyfrau mathemateg. Fe fydd yn derbyn yr anrhydedd am ei wasanaethau i addysg.
“Mae’n gydnabyddiaeth i wahanol bobol ac yn arbennig pobol sydd â rhyw fath o gysylltiad â’r Brifysgol mewn rhyw ffordd,” meddai Gareth Ffowc Roberts wrth golwg360.
“Mae hwn yn magu rhyw berthynas dyfnach wedyn. Mae rhywun efallai yn cyfrannu ymhellach at waith neu broffil yr ysgol. I mi mae hwn yn gydnabyddiaeth o’r ehangder yna, ehangder y diffiniad o beth yw diwylliant Cymraeg.”
Cymry amlwg eraill fydd yn cael eu hanrhydeddu yw’r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn, yr actor Llion Williams a’r bargyfreithiwr Gwion Lewis.
Unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu:
Merfyn Davies
Yr Athro Julian Evans OBE
Ifor ap Glyn
Athro Constantin Grammenos
Nicolas Jackson OBE
Dr Raj Jones
Kailesh Karavadra
Gwion Lewis
Athro Gareth Ffowc Roberts
Dr Cen Williams
Llion Williams