Mae meithrinfa Gymraeg Casnewydd, wnaeth golli eu hadeilad mewn tân ddechrau’r flwyddyn, yn edrych ymlaen at symud i safle parhaol newydd yn yr haf.
Bydd Meithrinfa Wibli Wobli yn rhannu’r safle ar Stad Ddiwydiannol Parc Cleppa gydag unig deml Hindŵaidd y ddinas, Teml Dharma Mandir.
Dywed Natasha Baker, perchennog Wibli Wobli, y bydd lle i 70 o blant yn y feithrinfa newydd, sy’n fwy na’r hen safle ar Stad Ddiwydiannol Wern.
Am y tro cyntaf, byddan nhw’n gallu gofalu am fabanod dan ddwy oed hefyd – rhywbeth sydd heb fod yn bosib drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghasnewydd cyn hyn.
Wibli Wobli ydy meithrinfa Gymraeg gyntaf Casnewydd, oni bai am gylchoedd y Mudiad Meithrin.
“Dw i’n gyffrous iawn nawr, roedd e’n gyfnod eithaf pryderus ond nawr dw i wedi ffeindio rhywbeth dw i’n paratoi i ailagor felly cyffrous iawn,” meddai Natasha Baker wrth golwg360.
“Byddwn ni’n cydweithredu efo’r deml, ac mae’n cynnig cyfleoedd diwylliannol i blant hefyd.
“Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda nhw, nhw ydy’r unig deml yn yr ardal yng Nghasnewydd ac mae’n neis achos ni yw’r unig feithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd.
“Byddwn ni’n cofrestru am 70 o blant, a bydd lle i fabanod hefyd. Yn y lleoliad diwethaf, doedd dim lle i blant bach cyn yr ysgol, nawr fyddwn ni’n cynnig gofal plant i fabanod.
“Mae’n beth da i’r ardal, achos mae’n cynnig gofal plant cyfrwng Cymraeg i bawb nawr.”
‘Help y gymuned yn achubiaeth’
Ers y tân ym mis Ionawr, mae Wibli Wobli wedi bod yn defnyddio adeilad gafodd ei gynnig gan Ysgol Tredegar, ond doedden nhw ddim yn gallu gofalu am gymaint o blant yno.
Cafodd dros £8,000 ei godi yn dilyn y tân, ac fe gafodd ei wario i dalu staff. Mae’r feithrinfa hefyd wedi derbyn cymorth gan Gyngor Dinas Casnewydd, cwmnïau sydd wedi cyfrannu dodrefn, a’r Mudiad Meithrin.
“Roedd [sefydlu] yn anodd y tro diwethaf, ond nawr, achos bod y Cyngor yn gweld y canlyniadau a’r elw i’r gymuned, mae’r Cyngor wedi helpu lot ar ôl y tân i ffeindio rhywbeth dros dro i ni.
“Roedd yswiriant yn bodoli, ond mae’r yswiriant yn araf… heblaw am help y gymuned, fydden ni ddim yn gallu parhau, achos roeddwn i eisiau parhau i dalu’r staff i gyd yn y cyfamser i allu cadw’r staff.”
Swyddfeydd yw’r lleoliad newydd ar hyn o bryd, ac yn sgil cais cynllunio llwyddiannus, maen nhw wrthi’n gwneud gwaith adeiladu er mwyn cyflwyno addasiadau i’r adeilad a chreu ardal chwarae tu allan.
“Mae’r un peth ag o’r blaen yn yr adeilad diwethaf, swyddfeydd oedden nhw oedd rhaid i ni addasu yn feithrinfa,” meddai Natasha Baker, sy’n gobeithio symud i gartref newydd y feithrinfa erbyn dechrau’r haf.
“O leiaf y tro hwn dw i’n gwybod beth dw i’n gwneud, achos dw i newydd ei wneud e.”