Mae cynnydd o 11% yn nifer y rhai sy’n dysgu Cymraeg i’w groesawu, medd ymgyrchwyr iaith a’r sector.
Mae ystadegau diweddara’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dangos bod dros 16,900 o bobol wedi dechrau dysgu’r iaith yn 2022-23.
Yn ôl Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg, mae’n newyddion “calonogol” ac yn glod i waith caled y sector.
Er bod Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, yn dweud ei bod hi’n “gwbl wych” fod y niferoedd yn cynyddu, mae’n pwysleisio bod heriau’n parhau.
Roedd 44% o’r rhai ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2022-23 yn dilyn cyrsiau ar-lein, ac mae’r data’n dangos hefyd fod y mwyafrif o fewn oed gweithio.
Ers i’r Ganolfan ddechrau cyhoeddi’r data yn 2017, mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Mae eisiau croesawu’r [ystadegau], dw i wedi credu erioed bod dyfodol y Gymraeg yn nwylo dysgwyr newydd, boed drwy ysgolion Cymraeg neu drwy oedolion sy’n dysgu,” meddai Heini Gruffudd wrth golwg360.
“Yn gyntaf, ac yn sylfaenol, mae lot o’r cynnydd wedi dod o gyrsiau ar-lein – sy’n gwbl wych.
“Mae’n ffordd hollol wych o ehangu nifer dysgwyr yn sydyn ac yn hwylus.
“Ond y gamp wedyn, a’r gamp sylfaenol, ydy sut mae croesi o hynny at ddefnyddio’r Gymraeg yn ymarferol mewn sefyllfaoedd yn y gymuned – sut mae trosi’r dysgu yna i fod yn ddefnydd gwirionedd o’r iaith?
“Fysen i wedyn yn trio rhoi pwyslais mawr ar drio sicrhau bod gweithgareddau yn y gymuned ar gael i ddysgwyr o’r fath a’u bod nhw’n cael eu hybu a’u hannog, ac maen siŵr eu bod nhw.”
‘Defnydd ymarferol o’r Gymraeg’
Mae’r data hefyd yn dangos bod cynnydd o 9% wedi bod yn nifer y bobol rhwng 16 a 24 oed sy’n dysgu Cymraeg.
“Dw i’n credu bod hwnna’n newid o ryw ugain mlynedd yn ôl pan oedd rhan helaeth y dysgwyr yn rhai oedd wedi ymddeol,” meddai Heini Gruffudd wedyn.
“Mae hwnna’n gadarnhaol, a’r hyn sy’n bwysig yw ein bod ni’n apelio at grŵp oedran fydd, gobeithio, yn magu teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg, achos mae’n rhaid i hwnna fod yn ganolog i unrhyw ymdrech i adfer iaith.
“Mae hwnna’n obeithiol, ond fysen i’n tybio bod angen dipyn bach o waith yn y maes yma, efallai drwy wneud yn siŵr bod mwy o gyrsiau’n gysylltiedig ag ysgolion fel bod mwy o rieni’n dysgu Cymraeg ar y cyd â’u plant, neu o leiaf yn dysgu digon o Gymraeg i ddefnyddio’r iaith yn y cartref i ryw raddau gyda’r plant.”
Mae Heini Gruffudd hefyd yn cwestiynu faint o ddysgwyr sydd yn parhau i ddysgu hyd at lefelau’r cyrsiau uwch, gan fod ymchwil wnaeth e dros ugain mlynedd yn ôl, cyn sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, yn dangos mai canran “eithriadol o fach” oedd yn gwneud y cyrsiau uwch.
“Bysen i’n hoffi gwybod pa lwyddiant sydd erbyn hyn i sicrhau bod dysgwyr sy’n dechrau ar y daith yn llwyddo i fynd o’r naill gwrs i’r llall nes eu bod nhw’n rhugl.”
Yn ôl Dona Lewis, mae’r rhan fwyaf o’u dysgwyr yng Nghymru, er bod cyfran yn dysgu tu hwnt i’r wlad hefyd.
“Mae e i’w groesawu’n fawr, wrth gwrs; mae ehangu’r Gymraeg i fod yn iaith fyd-eang yn wych,” medd Heini Gruffudd.
“Ond, wedi dweud hynny, mae eisiau gwybod y realiti o ran Cymru ei hun, pa ganrannau sy’n dysgu yng Nghymru, a beth yw eu cyswllt nhw â’u defnydd ymarferol nhw o’r Gymraeg bob dydd.”
‘Adlewyrchu gwaith caled’
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg wrth eu boddau â’r cynnydd diweddaraf, meddai Dona Lewis, gan ychwanegu ei bod hi’n wych gweld mwy o bobol yn dymuno dysgu’r iaith.
“Mae’r ffigurau yn adlewyrchiad o waith caled y sector yn denu a sicrhau bod dysgwyr ym mwynhau dysgu Cymraeg,” meddai wrth golwg360.
“Mae yna tua 700 o diwtoriaid rŵan – maen nhw’n gweithio mor galed i ddarparu cyfleoedd a phrofiadau gwych i’n dysgwyr ni.”
Wrth ystyried sut mae dysgu ar-lein yn trosglwyddo i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned, dywed Dona Lewis fod hynny’n “rhan annatod” o’u cynnig.
“Does dim pwrpas i unrhyw un ddysgu iaith os nad ydyn nhw’n defnyddio’r iaith, felly mae’r elfen o ddefnydd iaith yn rhywbeth annatod o fewn yr arlwy rydyn ni’n ei gynnig i’n dysgwyr.
“Hyd yn oed ar y lefel gychwynnol, rydyn ni’n annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg felly fyswn i’n dweud bod unrhyw un o’n dysgwyr ni, mewn gwirionedd, yn cyfrannu at fod yn siaradwyr Cymraeg.
“Does dim rhaid i ti fod yn rhugl i wneud hynny, mae yna gyfraniad ti’n gallu’i wneud a sgwrs fedri di ei chael ar hyd yr holl lefelau.”
Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid fel y Mentrau Iaith, mae ganddyn nhw gynlluniau megis ‘Siarad’, sy’n uno dysgwyr â siaradwyr Cymraeg fel eu bod nhw’n cael defnyddio’r iaith.
“Mae’n gallu bod yn fwy o her pan mae rhywun yn dysgu’n rhithiol, ond beth rydyn ni’n ei weld ydy bod yr elfen rithiol yna’n apelio i bobol hefyd sydd efallai efo bywydau prysur a methu mynychu dosbarth wyneb i wyneb.”
‘Galw uchel’
Yr ystod o weithgareddau ac opsiynau dysgu sy’n cael eu cynnig gan y Ganolfan sy’n gyfrifol am y cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, yn nhyb y Prif Weithredwr.
“Ond mae yna hefyd lot o gynlluniau penodol gennym ni’n targedu pobol sydd eisiau dysgu mewn gweithleoedd, pobol ifanc,” meddai Dona Lewis wedyn.
“Mae’n gallu bod yn heriol, mae’r hinsawdd ariannol yn heriol i sicrhau twf, ond rydyn ni’n trio bod yn arloesol, yn hyblyg iawn yn y ffordd rydyn ni’n gweithio, a gwneud y gorau o bopeth sydd gyda ni o ran arlwy ac adnoddau.
“Dw i yn gobeithio mai parhau i gyrraedd nifer uchel o ddysgwyr rydyn ni’n mynd i wneud.
“Rydyn ni’n gweld galw uchel – galw sydd bron iawn yn uwch nag ydyn ni’n gallu’i ddarparu ar hyn o bryd – felly mae hynny i gyd yn newyddion calonogol.”