Morgan Owen
Morgan Owen sydd yn holi beth nesaf ar ôl colli refferendwm i gael swyddog iaith Gymraeg llawn amser ym Mhrifysgol Caerdydd …
Fel y bydd llawer ohonoch chi’n ymwybodol erbyn hyn, collwyd y dydd yn y refferendwm dros gael swyddog llawn-amser dros y Gymraeg yma yng Nghaerdydd o drwch blewyn.
Mi fydd hyd yn oed y difater yn ein plith yn groesgadwyr eiddgar dros ein hiaith bellach o ganlyniad uniongyrchol i’r modd y collwyd.
Yn wir, ysgubwyd ymaith pob difrawder gan yr ymgyrch, ac afraid dweud y ganwyd cenhedlaeth o ymgyrchwyr brwd yr wythnos dyngedfennol honno, y cyfryw nas gwelwyd yma yng Nghaerdydd o’r blaen yng nghyswllt y Gymraeg.
Ni thalai i mi ailadrodd hanes yr ymgyrchu a rhestru’r holl gamweddau drachefn; gwnaed hynny’n benigamp yn barod gan eraill. Yn hytrach, mi soniaf am yr adladd, a goblygiadau yr ymgyrch IE a’r golled fawr.
Cymry Caerdydd yn uno
Y peth cyntaf i’w nodi, a’r peth amlycaf yn hynny o beth, yw’r dadrith a ddaeth i’n rhan yn sgil y golled. Fe wnaeth yr ymgyrch IE ddod â’r gymuned gyfan ynghyd yma yng Nghaerdydd mewn ffordd nad oedd neb ohonom wedi ei gweld o’r blaen.
Yr wyf yn y gorffennol wedi bod yn feirniadol o bryd i’w gilydd o ddifaterwch myfyrwyr Cymraeg eu hiaith y ddinas hon.
Credaf i mi fod yn hollol gyfiawn i’w beirniadu yn y gorffennol, ond y tro hwn, fe ddaethant i’r adwy yn llu. Prin iawn y teimlais mor falch o fod yn Gymro wrth weld cynifer o fy nghyd-Gymry yn ymgyrchu’n angerddol dros yr iaith, gyda pharch ac urddas a gwir argyhoeddiad.
Treiddiodd yr ymdeimlad o undod bob calon Gymraeg— a di-Gymraeg, yn ogystal. Un o ryfeddodau’r refferendwm hwn oedd y gefnogaeth o du’r myfyrwyr nad oes ganddynt yr un gair o Gymraeg.
Cymeradwyaf eu cydymdeimlad â ninnau, ac yr wyf yn dra diolchgar o’r pontydd a godwyd rhwng gwahanol gymunedau gan y frwydr hon dros sicrhau troedle i’r Gymraeg yn ein Hundeb.
Ond, serch hyn i gyd, collwyd y refferendwm i ymgyrch NA nad oedd wedi ymgyrchu’n gyhoeddus o gwbl ac nid oedd ag un degfed o gefnogaeth yr ymgyrch IE.
Dibynasant yn llwyr ar gefnogaeth agored, gyhoeddus a swyddogol swyddogion etholedig yr Undeb, gan gynnwys y Llywydd yntau.
Celwydd yr Undeb
Gydag ysgwydd cynifer o siaradwyr Cymraeg dan faich yr ymdrech arwrol i ennill y refferendwm, collasom. Collasom i gysgodion yr ymgyrch NA; ni welsom mohonynt, ni chlywsom mohonynt, a phan ddatgelwyd y canlyniad, nid oeddynt yn bresennol.
Eu hymgyrchu hwythau oedd anfon e-byst at gymdeithasau a’r timoedd chwaraeon yr Undeb i’w hofni gan gelwydd am doriadau i’w cyllideb pe ceid swyddog llawn-amser dros y Gymraeg.
Anfonwyd hefyd e-byst at gynrychiolwyr academaidd yn eu hannog i bleidleisio NA. Fe gyhoeddwyd blog gan y Llywydd ar wefan swyddogol yr Undeb yn datgan ei fwriad i bleidleisio NA, gydag erfyniad ganddo i bawb arall wneud felly hefyd.
Defnyddiwyd holl ffrydiau swyddogol yr Undeb i hyrwyddo’r ymgyrch NA. Gwyrth ydyw y daethom o fewn 91 pleidlais o ennill. Gwarth ydyw nad oeddem â mawr o siawns o ennill gyda dylanwad cyfan yr Undeb yn ein herbyn.
Ymgyrch fyrlymus
Cafwyd ar ochr yr ymgyrch IE garfan o fyfyrwyr angerddol â ffydd yn y system. Credasom y cawn fuddugoliaeth o ddilyn y drefn; gwnaethom bopeth o fewn ein gallu. Credasom mewn democratiaeth.
Siaradasom â channoedd yn uniongyrchol; creasom daflenni a sticeri i’w dosbarthu a chrysau arbennig i’w gwisgo wrth ymgyrchu; cyhoeddasom fideos o fyfyrwyr tramor y Brifysgol yn datgan eu cefnogaeth i’n hymgyrch, a hefyd myfyrwyr o Ewrop o Wlad y Basg a Chatalwnia yn datgan eu cefnogaeth hwythau; lledasom ein neges bositif, gynhwysol yn ddi-baid ar Twitter a Facebook.
Ond ofer fu’r cyfan.
A dyma’r dadrithiad. Pe na bai am ymyrraeth swyddogion yr Undeb, a’u defnydd o blatfformau swyddogol yr Undeb nad oedd gennym ni ar yr ymgyrch IE yr hawl i’w defnyddio, mi fyddwn wedi ennill. Nid oedd yn deg.
Efallai yr oeddem ni siaradwyr Cymraeg yn naïf i ddisgwyl ennill ar ôl rhedeg ymgyrch mor dda a ddenodd gymaint o gefnogaeth, ond o wybod pa mor danbaid y bydd yr Undeb yn gwrthwynebu unrhyw ymgais debyg gennym yn y dyfodol i gael swyddog llawn-amser dros y Gymraeg, pa obaith sydd i ni bellach?
Beth nesaf?
Mae’n anodd iawn teimlo bod yr Undeb yn ein cynrychioli bellach; onid oeddent wedi ymfyddino yn ein herbyn, a gwneud popeth a allent i’n rhwystro?
Os na allwn gael rhywbeth mae’r gymuned Gymraeg yn unfryd dros ei gael trwy bleidlais, sut yn y byd y gallwn gael unrhyw beth? Siomwyd pob un ohonom yn enbyd.
Ond, fe erys llygedyn o obaith. Bu’r ymgyrch yn bair chwyldro, ac yn ein colled yr ydym yn magu nerth a balchder. Dechreuad yw hwn, ac nid y diwedd.
Fe barhawn i frwydro yn urddasol ac yn barchus ac yn bositif, ac afraid dweud, yn heddychlon. Mi fydd y refferendwm hwn wedi ei argraffu’n annileadwy ar ein cof cymunedol.
Deffrowyd ysbryd cyfiawnder, ac y mae’r sêl dros degwch yn ymestyn yn bell y tu hwnt i ni siaradwyr Cymraeg.
Cydsafwn â phob lleiafrif gorthrymedig, ac fe orymdeithiwn tuag at y byd newydd a gwyd o ludw ein gobeithion teilchion. Nid anghofir hyn. Ymlaen.
Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.