Heroin
Mae heroin gwerth £40,000 wedi cael ei ddarganfod gan yr heddlu mewn tŷ ym Merthyr Tudful.
Cafodd cyrch ei gynnal ar y tŷ yn Thomas Dyke, Penydarren fore Gwener, 1 Mai ac fe gafodd y cyffuriau eu darganfod mewn bagiau, ynghyd a miloedd o bunnau.
Mae dau ddyn – Kristian Stephen Baigrie, 33, a Carl Michael Jones, 52- wedi cael eu cyhuddo o fod a chyffuriau yn eu meddiant, a bu’r ddau gerbron Llys Ynadon Merthyr ar 2 Mai.
“Roedd hwn yn swm enfawr o heroin sydd wedi cael ei dynnu oddi ar y strydoedd, a hynny gyda diolch i wybodaeth gan y cyhoedd,” meddai’r Ditectif Arolygydd Mark Lewis.
Bydd y ddau ddyn yn ymddangos o flaen Llys y Goron Merthyr ar 18 Mai.