Mae prawf newydd wedi cael ei gyflwyno sy’n medru canfod arwyddion o ganser yr ofari ddwywaith yn gynharach na phrofion eraill, yn ôl gwaith ymchwil.

Wedi 14 mlynedd o dreialu, mae’r dull newydd yn dehongli lefelau protein o’r enw CA125 sy’n cael ei gysylltu â chanser yr ofari.

Ar hyn o bryd, nid oes prawf sgrinio am ganser yr ofari gan fod gwaith ymchwil wedi methu a chadarnhau y byddai un dull penodol yn gwella’r siawns o ganfod arwyddion o’r afiechyd.

Ond fe wnaeth y dull newydd wneud diagnosis cywir bod gan 86% o’r merched ganser yr ofari.

Mae tua 7,100 o ferched yn cael gwybod bod ganddyn nhw ganser yr ofari bob blwyddyn, a thua 4,200 yn marw o’r afiechyd.

Prifysgol Coleg Llundain (UCL) sydd wedi bod yn arwain yr ymchwil ac fe gafodd 202,638 o ferched 50 oed a throsodd eu profi.