Eloise Parry
Mae rhybudd rhyngwladol tros beryglon tabledi colli pwysau wedi cael ei gyhoeddi gan asiantaeth heddlu a throsedd Interpol, yn dilyn marwolaeth myfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Mae lluoedd heddlu o 190 o wledydd wedi derbyn y rhybudd ar ôl i gemegyn gwenwynig, dinitrophenol neu DNP, oedd yn y tabledi colli pwysau, gael ei gysylltu â marwolaeth Eloise Parry o’r Amwythig.
Bu farw Eloise Parry, 21, ar 12 Ebrill – oriau yn unig wedi iddi gymryd y tabledi a brynodd hi dros y we.
Mae dyn yn Ffrainc hefyd yn ddifrifol wael ar ôl cymryd y tabledi.
Marwolaethau
Datgelodd arolwg y llynedd y gall tabledi o’r fath fod yn gysylltiedig â marwolaethau pum person arall ym Mhrydain rhwng 2007 a 2013.
Mae mam Eloise Parry, Fiona, hefyd wedi rhybuddio pobol i beidio â defnyddio’r tabledi:
“Fy neges yw plîs peidiwch, peidiwch â chymryd y cyffur yma. Fe fydd yn gweithredu yn araf deg ac mae’n ffordd erchyll o farw,” meddai.