Mae HSBC wedi cyhoeddi elw gwell na’r disgwyl wrth i’r banc ddatgelu fod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi gofyn am wybodaeth am ei fanc preifat dadleuol yn y Swistir.

Cododd elw cyn treth y banc i £4.7 biliwn yn chwarter cynta’r flwyddyn –  4% yn well na’r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd prif weithredwr HSBC, Stuart Gulliver, fod y banc wedi “gwella’n dda” ar ôl diwedd llwm i 2014 pan gafodd HSBC ddirwyon ac fe ostyngodd ei elw blynyddol 17%.

Mae HSBC wedi bod mewn trafferthion dros ei uned bancio breifat yn y Swistir. Honnir fod y banc wedi helpu miloedd o bobl i guddio biliynau oddi wrth awdurdodau treth. Yn sgil y sgandal, mae’r banc yn wynebu ymchwiliad troseddol mewn nifer o wledydd.

Heddiw, dywedodd y banc fod yr FCA wedi gwneud “cais am wybodaeth” am y banc preifat yn y  Swistir.

Daw’r ffigyrau heddiw ar ôl i’r banc ddweud yn ddiweddar ei fod yn ystyried symud ei bencadlys allan o’r DU mewn ymateb i “ddiwygiadau rheoleiddio a strwythurol” yn y sector.

Mae hi hefyd yn bosib y bydd HSBC yn gwerthu ei fanc manwerthu yn y DU, oedd yn cael ei adnabod fel banc Midland cyn iddo gael ei brynu yn 1992.