Y traeth yn Happisburgh (Llun Yr Amgueddfa Brydeinig)
Darlithydd o brifysgol yng Nghymru oedd y cynta’ i weld rhai o’r olion traed hyna’ sydd wedi eu gweld erioed.

A’r profiad o weld olion traed hynafol yn Borth oedd wedi helpu Dr Martin Bates i adnabod yr olion yn Norfolk ddwy flynedd yn ôl.

Erbyn hyn mae erthygl wedi ei chyhoeddi yn y cylchgrawn ysgolheigaidd PLOS ONE yn dangos bod yr olion yn fwy nag 800,000 o flynyddoedd oed.

Dim ond dau set o olion hŷn na hynny sydd wedi eu gweld erioed ac, yn ôl yr arbenigwyr, mae’r dystiolaeth yn newid ein syniadau am ddatblygiad pobol yng ngogledd Ewrop.

‘Cyswllt gwych gyda’r gorffennol’

Yn ôl Martin Bates, o adran archeoleg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbed, roedd yr olion traed “yn gyswllt gwych gyda’r gorffennol”.

Ef oedd wedi sylwi ar y marciau yn Happisburgh yn Norfolk ym mis Mai 2013 ac, o’i brofiad yng Nghymru, wedi amau ar unwaith beth oedden nhw.

Er nad oedd ei gyd archeolegwyr yn siŵr, fe ddangosodd profion eu bod yn perthyn i grŵp o bobol ifanc ac oedolion o fath homo antecessor – y ‘dyn arloesol’.

Y gred yw bod yr union rywogaeth honno wedi diflannu tua 600,000 o flynyddoedd yn ôl.

‘Eithriadol’

Yn ôl Nick Asthon o’r Amgueddfa Brydeinig sydd wedi bod yn ymchwilio yn ardal Happosburgh ers deng mlynedd, roedd y darganfyddiad yn “un eithriadol”.

Doedd dim modd gwarchod yr olion traed ar ôl i’r llanw glirio’r tywod oddi arnyn nhw, ond mae pob math o gofnodion wedi eu cadw.