David Cameron (PA)
Fydd y Ceidwadwyr ddim yn trafod clymblaid gyda neb arall tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, meddai David Cameron.
Yn ôl Prif Weinidog Prydain, fe fydd y treulio’r 50 diwrnod nesa’n ymgyrchu tros fuddugoliaeth glir i’w blaid.
Fe ddywedodd wrth raglen deledu ei fod yn credu bod hynny’n bosib ond, petai’n methu, y byddai’n fodlon dechrau trafod y diwrnod wedyn.
Mae arweinydd plaid wrth-Ewropeaidd UKIP – Nigel Farage – wedi dweud y bydden nhw’n fodlon cynnal breichiau Llywodraeth Geidwadol, cyn belled â bod refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn 2015.
Ond, yn ôl David Cameron, main iawn yw’r tebygrwydd o allu cael trafodaethau gyda’r Undeb cyn diwedd y flwyddyn.
‘Dim clymblaid SNP’
Ddoe fe ddywedodd yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, na fydden nhwthau’n fodlon creu clymblaid gyda phlaid annibyniaeth yr Alban, yr SNP.
Ond fe gadwodd y drws yn agored ar gyfer cytundeb llai ffurfiol.