Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian a enillodd Rali Ffermwyr Ifanc Ceredigion, a hynny o drwch blewyn oddi wrth CFfI Talybont.

Roedd Talybont wedi ennill mwy o wobrau cyntaf – yn enwedig ym maes barnu stoc – ond fe sgoriodd Pontsian yn gyson mewn nifer o gystadlaethau.

Yn y diwedd, roedd llai nag ugain pwynt rhwng y deg clwb uchaf, gyda Llanwenog a Chaerwedros yn rhannu’r trydydd safle.

Pontsian yn dathlu

Wrth annerch y rali a oedd wedi’i threfnu gan Glwb Llanddeiniol ar dir Gwarfelin, Llanrhystud, fe alwodd Llywydd y Dydd, Ieuan Parry, ar i Fwrdd yr Iaith roi rhagor o arian i’r Ffermwyr Ifanc.

Roedd y Bwrdd yn delio â symiau mawr o arian, meddai, ond doedden nhw ddim yn cyfrannu llawer at y mudiad, er bod y rali’n enghraifft o Gymreictod naturiol.

Am y tro cynta’ erioed, merch o Langeitho a gafodd ei choroni’n Frenhines y Sir – mae Sara Downes wedi bod yn enillydd cyson yng nghystadlaethau’r mudiad yn sirol a chenedlaethol. 

Brenhines y Sir – Sara Downes – yn cyrraedd mewn bygi golff. Nid teyrnged i Andy Powell, ond rhan o thema’r rali.

Dyma’r pump uchaf:

Pontsian 156
Talybont 154
Llanwenog 147
Caerwedros 147
Felinfach 145

Dyma rai o uchafbwyntiau eraill y dydd, mewn lluniau ….

Seremoni cornoi’r frenhines

Caerwedros – enillwyr Arddangosfa’r Prif Gylch – croeso i Eisteddfod yr Urdd

Arddangosfa’r Prif Gylch – Troedyraur, a Dai Jones, Llanilar, yn rhoi croeso i Sioe’r Cardis

Cystadleuaeth Tableau – Felinfach wrth eu gwaith

Y cyntaf yn y Crefft – tlws ar gyfer Cystadleuaeth Gneifio’r Byd gan Talybont

Enillwyr y Coedwigaeth – Troedyraur – yn cael eu holi ar gyfer y rhaglen Ffermio

Enillwyr Cystadleuaeth Olrhain Hanes – Llangeitho’n talu teyrnged i’r bostfeistres a’r cymeriad, Marie James

Enillwyr cystadleuaeth Seren Wib – Llanwenog

Seren Wib – ‘Tair Chwaer’ o Fytdroilyn

Seren Wib – dwy Duffy a dwy Lowri – Lowri Jones o Garwedros a Lowri Evans o Droedyraur

Dawnsio – Mydroilyn

Dawnsio – yr enillwyr, Pontsian