Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud bydd rhaid i Gaerdydd ail-adeiladu a dechrau o’r dechrau y tymor nesaf, yn dilyn eu siom o golli allan ar le yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r Adar Gleision yn wynebu tymor arall yn y Bencampwriaeth ar ôl colli 3-2 i Blackpool yn Wembley ddydd Sadwrn.

Mae Dave Jones wedi rhoi hwb i’r Adar Glas trwy ddweud ei fod yn awyddus i aros gyda Chaerdydd y tymor nesaf.

Cynllun, nid emosiwn

“Fe fydda’ i’n eistedd i lawr gyda’r Bwrdd i weld ble allwn ni fynd o fan hyn,” meddai Dave Jones. “R’yn ni i gyd yn gwybod bod angen ail-adeiladu a dechrau eto.

“Roedden ni gyd yn siomedig, ond fe fydd rhaid i ni wneud penderfyniadau clir a chywir i ail-adeiladu, ac nid eu selio nhw ar emosiwn.

“Rwy’n teimlo dros y cefnogwyr, oherwydd maen nhw wedi bod yn wych eleni. Ond doedden ni ddim digon da ar y dydd… ond r’yn ni’n gwella.”


Sefydlog

Mae Dave Jones yn credu bydd mwy o sefydlogrwydd i’r clwb oddi ar y cae tymor nesaf yn helpu gobeithion y clwb o gyrraedd lefel uchaf pêl-droed Lloegr.

“Pan rydych yn ystyried popeth sydd wedi digwydd y tymor hwn, Blackpool oedd y clwb mwyaf sefydlog. Mae gyda nhw Gadeirydd sydd wedi eu sefydlogi nhw,” meddai.

“Rwy’n gobeithio gallwn ni dyfu y tymor nesaf.”