Mae Rob Howley wedi awgrymu bod gan Gymru le i ofni, ar ôl cyhoeddi tîm De Affrica a fydd yn ymweld â Stadiwm y Mileniwm y mis nesaf.

Mae’r Springboks wedi cynnwys chwe chwaraewr sy’n chwarae yn Ewrop yn y pymtheg cyntaf i wynebu tîm Warren Gatland.

Fe fydd Francois Steyn o Racing Metro’s a Joe van Niekerk o Toulon yn cychwyn, ynghyd â chwaraewr Caerfaddon, Butch James.

Mae tri chwaraewr sydd wedi’u lleoli yn Iwerddon hefyd yn y garfan, sef, Jean de Villiers (Munster) CJ van der Linde (Leinster) a BJ Botha (Ulster).

Mae’r tîm hefyd yn cynnwys y capten, Jon Smit, Ruan Pienaar a Ricky Januarie, a dreuliodd gyfnod gyda’r Gweilch y tymor hwn.


Profiad brawychus

“Y peth cyntaf r’ych chi’n sylwi arno yw’r lefel o brofiad mae’r Springboks yn gallu rhoi ma’s ar y cae,” meddai Howley, sy’n aelod o dîm hyfforddi Cymru.

“Mae dyfnder eu cryfder yn enfawr, ac mae hynny’n amlwg o’r tîm maen nhw wedi dewis.

“Maen nhw wedi galw ar chwaraewyr profiadol sy’n chwarae ei rygbi tramor, ac fe fydd y chwaraewyr hynny’n edrych ‘mlaen i gael y cyfle i brofi eu gwerth yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd.”

“R’yn ni’n cadw dweud ein bod ni am brofi ein hunain yn erbyn y goreuon, a does dim amheuaeth y byddwn ni gwneud hynny ar 5 Mehefin ac ar y daith.”

Carfan De Affrica

15 Francois Steyn 14 Gio Aplon 13 Jean de Villiers 12 Butch James 11 Odwa Ndungane 10 Ruan Pienaar 9 Ricky Januarie.

1 CJ van der Linde 2 John Smit 3 BJ Botha 4 Danie Rossouw 5 Andries Bekker 6 Francois Louw 7 Dewald Potgieter 8 Joe van Niekerk.

Eilyddion – 16 Chiliboy Ralepelle 17 Jannie du Plessis 18 Alistair Hargreaves 19 Ryan Kankowski 20 Meyer Bosman 21 Juan de Jongh 22 Bjorn Basson.