Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wedi bygwth gweithredu diwydiannol yn sgil cynlluniau’r Llywodraeth i breifateiddio rhan o’r Post Brenhinol.
Yn ôl CUW, maen nhw’n disgwyl y bydd mesur ynglŷn â gwerthu cyfran o’r busnes yn cael ei gynnwys yn Araith y Frenhines yfory.
Maen nhw’n honni na fyddai’r mesur yn cael cefnogaeth gan y cyhoedd.
Barod am y frwydr
“Os oes angen gweithredu’n ddiwydiannol i orchfygu preifateiddio, ac i sicrhau pensiynau a swyddi i’n haelodau,” meddai Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Dave Ward, yng nghynhadledd flynyddol CUW, “a wnawn ni ddim oedi rhag gwneud hynny.
“Mae’r CUW yn barod am y frwydr.
“Mi fydd mwyafrif y Llywodraeth yn ei gwneud hi’n anodd i ni, a bydd yn rhaid i’n tactegau fod yn newydd ac yn arloesol.
“Fydd hi ddim yn hawdd, ond rydan ni wedi dangos ein penderfyniad i ymladd hyn.”
Hanes
Roedd yr undeb wedi ymgyrchu yn erbyn cynlluniau aflwyddiannus y Llywodraeth Lafur i breifateiddio rhan o’r Post Brenhinol flwyddyn ddiwethaf.
Fe wnaethon nhw hefyd weithredu’n ddiwydiannol dros gyflogau, swyddi ac amodau gwaith.