Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer arbed £6.25 biliwn o wariant cyhoeddus “gwastraffus”. Fe fydd y toriadau’n dod i rym ar unwaith, meddai.
Ond, yn ôl George Osborne, fe fydd y toriadau’n digwydd heb effeithio gwasanaethau rheng flaen allweddol, fel addysg, iechyd, amddiffyn a datblygu rhyngwladol.
“Fe fydd yn rhaid i ysgolion ddod yn fwy effeithlon, fel pawb arall,” meddai, “ond bydd eu harbedion yn cael ei ail-fuddsoddi yn y dosbarth eleni.”
Yn ogystal, bydd £500 miliwn o arbedion yn cael ei ailgylchu ar gyfer hybu’r economi a sgiliau gweithwyr.
Bydd y gweddill yn cael ei ddefnyddio i leihau dyled y Llywodraeth.
Lle mae’r toriadau?
Mae’r arbedion yn cynnwys:
• Dros £1 biliwn ar gostau teithio a chostau ymgynghori;
• Bron £2 biliwn ar systemau cyfrifiadurol, cyflenwyr ac eiddo;
• Dros £700 miliwn drwy ffrwyno’r nifer o swyddi newydd, a chael gwared ar gwangos.
Daw’r arbedion ar ôl i Fanc Lloegr a’r Trysorlys gynnig “cyngor economaidd cryf” ar gyfer “gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael â’n dyled,” meddai’r Canghellor.