Fe fydd Cymru’n derbyn £187m yn llai o arian cyhoeddus, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth San Steffan i wneud arbedion o dros £6bn dros y ddwy flynedd nesa’.
Mae’r toriadau’n golygu lleihad o 1.2% yng nghyllid y Cynulliad.
Fe fydd yn rhaid i’r arbediadau gael eu gweithredu naill ai eleni neu’r flwyddyn nesaf, ond mae gan sefydliadau datganoledig fel y Cynulliad yr opsiwn i oedi rhag gwneud y toriadau am flwyddyn.
Teg?
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan wedi dweud bod yr arbediadau’n “ddêl deg a chyfatebol i Gymru”.
“Maen nhw wedi bod yn benderfyniadau caled ac anodd, ond dydi hi ddim ond yn iawn bod Cymru’n cyfrannu tuag at leihau y diffyg enfawr sydd wedi cael ei adael gan y llywodraeth flaenorol,” meddai.
“Rwy’n hapus ein bod ni wedi cyfyngu ar yr arbediadau yng Nghymru i 1.2%, sy’n llawer llai na nifer o adrannau’r llywodraeth.”
Dim toriadau rheng flaen
Dywedodd Cheryl Gillan ei fod i fyny i Lywodraeth y Cynulliad a ydyn nhw am oedi cyn gwneud y toriadau. Penderfyniad Caerdydd hefyd fydd pa feysydd fydd yn teimlo min y fwyell, meddai.
Ond, roedd yn falch na fyddai gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru’n diodde’.