Fe fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi o fewn yr wythnos nesa’ pwy sydd wedi ennill y cytundeb i ddarlledu’r sesiynau trafod.

Yn ôl llefarydd, mae’r holl gwmnïau wnaeth gais am y tendr, bellach yn gwybod a fuon nhw’n llwydiannus ai peidio, a’r wythnos hon yw’r cyfnod “cooling off” lle mae cyfle iddyn nhw “adlewyrchu, ymateb neu herio” y penderfyniad.

“Mi fyddwn ni’n datgan pwy sydd wedi ennill y cytundeb o fewn tua wythnos o amser,” meddai’r llefarydd wrth Golwg360.