Dai Lingual sy’n trafod y modd mae technoleg wedi datblygu cymaint mewn cyfnod mor fyr.
Mae fy nghenhedlaeth i wedi gweld y newid mwyaf yn y byd technolegol na’r un un arall mae’n rhaid.
Dwi ‘di nodi eisoes yn y golofn hon taw cardiau post electroneg i America oedd fy mhrif ddefnydd o’r we yn fy mlynyddoedd coleg 1994-97. Efallai ddylen i nodi hefyd bod ambell lythyr agored ei naws, megis nodyn di-chwaeth wedi ei ddosbarthu trwy’r dosbarth, yn cael ei hela nôl ag ymlaen i ffrind imi oedd hefyd yr ochr arall i Glawdd Offa mewn prifysgol wahanol.
Sai’n siŵr os yw hon yn ffin seicolegol neu ymarferol, ond ambell i lythyr hen ffasiwn oedd yn cael eu hela yn ôl ac ymlaen rhyngof i a fy nghyfoedion ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd – tybed sawl llythyr fel hynny sy’n cael eu hela’r dyddiau wedi dyfodiad www.facebook.com?
Personol
Mae’n teimlo rywsut mod i’n cyfaddef rhyw fath o uwch-gariad Groegaidd i fy nghyfoedion o Orllewin Cymru wrth ddatgan ein bod ni arfer llythyru ein gilydd – efallai bod hynny’n swnio’n od heddiw, ond yn wir dyna oedd y drefn! Ac yn ystod gwyliau’r haf, byddai llythyron lu yn mynd o dŷ i dŷ rhwng y grŵp bach ohonom (finne a tri gŵr doeth o Ogledd Lloegr) megis galwadau ffôn dibwynt wedi diwedd y dydd yn yr ysgol.
Fel mae’n digwydd, roedd y llythyron yna gyda’r pethau mwyaf digrif rydw i erioed wedi eu darllen, a rhywsut mae’r e-byst sy’n mynd rhwng yr un grŵp ers dod i’r byd gwaith yn pylu mewn pwysigrwydd. Yn wir, dyna efallai oedd hanfod llythyr – roedd rhaid ei agor, a neges o’r unigolyn i’r unigolyn oedd hi. Sawl e-bost chi’n sgwennu y’ch chi’n gwybod i sicrwydd nad yw’n cael ei rannu neu ei hela ymlaen? Mwy tebyg i garden (e)bost fel nes sôn uchod felly!
Fodd bynnag, roedd eistedd o flaen y we yn fy nyddiau coleg fel eistedd tu flaen i Spectrum ZX+ wrth aros i’r sgrin adnewyddu’n araf.
Ac yn ôl be dwi’n gofio, fel ‘ny fuodd hi hyd yn oed wedi’r dyddiau coleg. Roeddwn i’n gweithio i orsaf radio gymunedol a Ceefax, nid y we, oedd ein prif ffynhonnell o wybodaeth gyfoes.
Gofynnwch i Jeeves
Glanies i wedyn yn un o gwmnïoedd mwyaf blaenllaw’r maes marchnata ar-lein erbyn canol 2000 – mwy trwy ddamwain a hap na dim arall efallai gan fod fy rhieni wedi gofyn imi ddewis rhwng symud mas a rhento fflat, ac wedyn y landlord wedi datgan ei fod am gael B&B yn fy nhŷ dewisol. Felly ges lythyr yn gofyn yn gwrtais imi hel fy mhac. Felly bant i’r ddinas fawr a fi trwy gysylltiad gwaith, megis Dick Whittington heb gath.
Roedd hyn fel byd arall, mae helyntion gyda’r nos Llundain yn golofn neu nofel ynddo’i hun, ond roedd y diwrnod gwaith yn brofiad newydd hefyd. Eistedd mewn rhesi wrth gyfrifiadur, le’r oedd y graffeg mwyaf syfrdanol bron â neidio o’r sgrin wrth i ni ymweld â’r cleient nesaf i geisio am sylw’r cyhoedd. Ni oedd yn hybu Ask Jeeves, lastminute, Experian, FTonline, you name it we’ll dot.com it oedd hi bron â bod.
Roedd hyn ychydig cyn i’r swigen fynd “pop” wrth gwrs, ond ar y pryd roedd yn rhaid bod hi’n ddigon hawdd i unrhyw gwmni’r we newydd fod yn ddigon cefnog i dalu’r £7k am ymgyrch radio ac ar-lein i’w hybu. Un o fy nghysylltiadau cyntaf yn y maes oedd gohebydd ifanc i’r FT ar-lein sef Marc Webber, sydd erbyn hyn yn cynghori S4C ymysg eraill am eu presenoldeb ar-lein.
Cymdeithasu
Cyn bo hir, roedd fy nghyfoedion yn syllu ar ystafelloedd cymdeithasu, tra mod i’n osgoi’r temtasiwn o dalu £5 y mis i fod ar friendsreunited, ond rhaid cyfaddef roeddwn i’n ateb ambell i e-bost cynnar a fyddai’n honni’r ddawn o roi proffil seicolegol i chi via eich ffrindiau. Ac fel mae’n digwydd roedd pobol yn f’ystyried i yn lawer fwy swil nag o’n i’n teimlo tu ôl i fy PC gwaith, a oedd yn darian electroneg yn erbyn y byd go iawn.
Ond wrth gwrs, nid ffrindiau agos oedd y rhain, ond pobol eraill o’r un genhedlaeth a fi oedd, fel fi, wedi benni lan mewn jobyn a oedd yn eu caniatáu i dreulio oriau yn syrffio’r we, yn ateb holiadur ar-lein a thrwy e-bost. A dyna le ry’n ni nawr i ddweud y gwir i ryw raddau – er bod y swigen wedi gostwng yn ara bach fel petai yna bigiad go lew wedi bod.
Mae’r bobol gollon ni gysylltiad â nhw (ac nid efallai trwy ond hap a damwain!) am fod yn ffrindiau ar facebook, a ma’r bobl yna gwrddon ni ac mewn cynhadledd neu ddigwyddiadau unwaith yn ein tywys ar twitter ac yn ein dilyn ni.
Cysylltais â chriw o fechgyn o’r coleg yn ddiweddar ar neges destun i ofyn pwy oedd am beint bach ar ôl gem rygbi yng Nghaerdydd. Rhoddais wybod hefyd i ddau arall o’r brifysgol ar twitter. Ges i ymateb yn syth bin gan y garfan twitter, tra bod hi’n ddyddiau nes imi gael un ymateb o’r garfan gyntaf.
Yn y diwedd, es i weld y rygbi gyda chriw Caerdydd, ac wedi’r gêm naethon trodd hi’n noson o watwar ymdrechion y rhan fwyaf o’r Aelodau o’r Cynulliad sydd – yn ôl beth y ni’n gweld ar y sgrin – yn treulio eu hamser yn ymateb i bobol ar rwydweithiau cymdeithasol!
A beth ddigwyddodd i’r rhaglenni cyflym, Flash a oedd wedi dwyn sylw pawb am gyfnod cyn i’r swigen cael ei phigo?
Mae’r meddalwedd yn dal i gael ei ddefnyddio, ar wefan dwi wedi dod o hyd iddi ac yn defnyddio bob hyn a hyn, http://www.youtube.com.
Yn naturiol, mae fy mab deunaw mis, Osh, lan ‘na’n barod, wedi cyfarwyddo ei ffilm fer gyntaf! Sut mae bywyd yn newid o fewn un genhedlaeth yndyfe. Aruthrol.