Frankie Dettori
Mae’r joci Frankie Dettori yn wynebu ymchwiliad gan awdurdodau yn Ffrainc ar ôl cael prawf positif am gyffuriau.

Mewn datganiad dywedodd ei gyfreithiwr, Christopher Stewart-Moore, y bydd ymchwiliad gan France Galop yn cychwyn yr wythnos nesaf ar ôl i’r Eidalwr brofi’n bositif yn rasys Longchamp ar Fedi 16 eleni. Roedd gan Dettori, sy’n 41 oed, bedair ras y diwrnod hwnnw.

Fis diwethaf gadawodd Frankie Dettori stabl geffylau Godolphin ar ôl 18 mlynedd o farchogaeth ceffylau’r stabl. Dywedodd y joci  bryd hynny ei fod yn chwilio am her newydd, ond ei fod am barhau i farchogaeth.