Mae un o hen ffefrynnau Caerdydd yn dod yn ôl gartre’ wrth i Mark Ring ymuno â staff hyfforddi clwb y brifddinas

Fe gyhoeddodd y rhanbarth fod y gwaith papur wedi’i orffen i ddod â chyn ganolwr Cymru yn ôl i Barc yr Arfau i hyfforddi’r olwyr.

Fe fydd Ring yn gadael ei swydd yn hyfforddi Cross Keys er mwyn helpu’i hen glwb.

Yn ôl Cadeirydd Caerdydd, John Huw Williams, fe fydd yn ychwanegiad pwysig at staff y  rhanbarth, gan weithio gyda nifer o “olwyr addawol”.