Dai Lingual yn cofio’r digwyddiadau erchyll yng Nghaerdydd wythnos yn ôl
Mae’n ddeg munud wedi pump ar ôl ysgol ar Ddydd Gwener.
Rỳm mewn ardal chwarae dan do lle sylweddolais – am y tro cyntaf – mod i’n gallu cael bwyd a diod am ddim gyda phris y tocyn. Nid bod y staff wedi fy hysbysu o hyn, a finne’n dad sy’n mynd yno’n weddol reolaidd.
Mae’n rhaid eu bod braidd yn swil ohona i wedi imi awgrymu y byddent yn denu llawer mwy o ochrau Canton fforna pe baent yn gwneud mwy yn y Gymraeg. Ta waeth, sdim ots gen i achos ma’r plant yn hapus yma.
Mae Osh wrth ei fodd yn y lle i fabis bach (nad yw’n cael ei wylio i sicrhau taw dim ond babis bach sy’n dod mewn, sy’n naturiol yn creu gwrthdaro rhwng y rhieni a phlant bach nad ydyn nhw’n rhan o’u teulu) tra bod ei chwaer hŷn…yma’n rhywle mae’n siŵr gyda’r gang.
Ail-ymuno â’r criw yn y cornel, a dyma un o’r mamau yn ail-ddechrau ei stori hi er mwyn imi gael deall yn iawn:
“Dwi bach yn ara’ ar y pethe ‘ma falle, ond dim ond nawr dwi’n neud lot ar y weplyfr, a dyma fi’n edrych yn fanwl ar hwnna ar fy ffôn ar ôl siopa wrth mod i’n eistedd yn y car ac esbonio i fy ngŵr nad oedd yna unrhyw win coch ar ôl, felly gwin gwyn fydde’n gwneud y tro am heno…Yn anffodus nid oeddwn i wedi eistedd yn y car iawn, a droiodd y boi ma ata’i a dweud:
‘Dyw hynny’n dda i ddim, sai’n hoffi gwin gwyn’
…Car anghywir!”
Llawer o chwerthin. Doedd dim golwg o ferched yn dweud eu dweud ar nos Fercher pan y dynion oedd ar lwyfan; Daniel Glyn a Slay yn brasgamu trwy eu sets yn hyderus i dorf dda a oedd yn codi arian i Gylch Meithrin Treganna, ac yna Tudur Owen yn llwyfanni ei spiel ef i’r dorf nes on i’n fy nagrau… i fod yn deg i Daniel a Gary, doeddwn i erioed wedi gweld Tudur yn fyw o’r blaen felly nid oedd hyn yn brawf empirical imi fel petai.
T’pun, roedd y mwynhad wedi dod i ben yn go sionc yng nghyffiniau Caerdydd a’r Fro’r wythnos hon.
Hanner awr wedi pump, nos Wener.
“Well imi fynd, mae’r traffig yn ofnadwy mas na…” Mae un o’r mamau ar ei ffôn deallus wedi dod i ddeall y diweddara…
“Mae rhyw foi wedi colli arni ac ymosod ar bobl mewn fan…”
“Doedd hi ddim yn hir cyn i rywbeth fel yna ddigwydd, gall unrhywun yrru…”
“Roedd tri ohonyn nhw yn y fan maen nhw’n dweud…”
“Debyg fod yna rhywrai wedi ymosod ar siop Dinas Powys bore ma, mae’n rhaid taw’r un gang ydy nhw.”
“Fe ffoniai adref i weld os yw’r ffordd yn glir ym Mhenarth”
“Bydd rhaid i ni gerdded i Grangetown i ddal y trên.”
“Mae’r traffig yn iawn tu allan, ond efallai fod hynny gan fod y ffordd ar gau.”
“Fe wnaeth un o fy ffrindiau ffonio fi funud yn ôl i weld mod hi’n iawn.”
“Mae hynny’n arwydd go iawn fod rhywbeth difrifol wedi digwydd.”
“Bydda i’n cael neges nawr i ofyn le ydw i wedi bod yn gyrru pnawn ma.”
Pryd mae’r chwerthin yn cael dechrau? Y cyflwr dynol yn ysu i barhau i weld bywyd fel rhywbeth gallwch chwerthin amdano yn ddiffwdan, ein bod yn meistroli ar ddigwyddiadau ar fywyd.
“Maen nhw’n sôn fod rhywun wedi marw.”
Mae’ r chwerthin wedi dod i ben. Nid ni yw meistri ein bywydau.
* * *
Gyrru adre’n syth gan fod Osh yn edrych ei fod ar fin cysgu a gall fod yn siwrnai hir adre – o ran amser hynny yw.
Y traffig yn ara deg ym mhob cyfeiriad, ond os rhywbeth pob un yn sylweddoli; os oedd yna amser i fod yn Brydeinig yn ein ffordd wrth aros ein tro, dyma hi wedi dwad.
Parcio’r car ar faes parcio’r eglwys i osgoi rhan olaf y siwrnai gan fod y car yn arogli petai un sbardun arall yn mynd i losgi’r injan yn ulw.
Traffig fel neidr tuag at Ddinas Powys, y Barri a Phenarth [ gweler y llun o’r ffôn symudol helais wythnos ddiwethaf, fe wna i ail-hela i’ch ebost].
Methu gwrando na gwylio’r newyddion rhag ofn i’r plant deall gormod a dechrau gofyn cwestiynau…roedd y fechan yn poeni am y teulu brenhinol o’r Canol Oesoedd gynne, sai’n siwr sut fyddai’r newyddion lleol yma yn ei tharo hi.
* * *
Y plant yn eu gwelyau, a finnau yn gwylio News Watch ar BBC News, a oedd yn gofyn am gyfraniadau ac awgrymiadau i drafod yr wythnos nesaf.
Fy llinell amser ar y trydar yn llawn o anghydfod, a sawl un yn barnu’r BBC am ddiffyg diweddariadau ar yr un sianel..mater hawdd oedd hi felly i ail-gyfeirio’r negeseuon at ffrwd @bbcnewswatch
Wel, os am adborth on’defe…wedi hanner dwsin o rheiny, diweddarais fy llinell amser www.twitter.com/dailingual i hysbysu eraill o’r gofyn am adborth, a gweld wedyn bod sawl un wedi gwneud hynny wedyn.
Nid grym yw’r gair, ond oedd y Cymry (gan gynnwys Cymry di-Gymraeg) yn gweld bod hi’n rhoi meistrolaeth yn ôl yn ein dwylo ni, i geisio barnu ymateb i’r drasiedi?
Ambell un fel Vaughan Roderick yn gweld fod hyn yn lletchwith, fod y newyddion ei hunan yn rhy erchyll i drafod yn y fath ffordd, Helen Mary wedyn yn un o’r rhai a oedd wedi dadlau taw mater o barch yw e.
Fel sut mai dweud Machynlleth. Mach-n-loo?
Mater o barch.
Mater o bryder taw’r newyddion yw’r “Must See TV” dyddiau yma.
Rhwng Saville a Syria, Megan a nawr Menzies.
Mae’r chwerthin wedi dod i ben. Am ba hyd felly?
Diddorol nodi fod Daniel Glyn wedi adrodd ambell i jôc ar draul Saville nos Fercher, a pham lai.
Ry ni am chwerthin ar ben pethau nad ydyn ni yn eu deall, nad ydyn ni am weld, na ydyn ni am ddioddef.
Fyddaf i ddim yn debyg o ddianc i’r dafarn heddiw i gael peint a “good laff”; fy nhafarn lleol i yw’r Merrie Harrier, lle cafodd gyrrwr y fan wen ei arestio ddoe.