Bu Asia ar daith arbennig o'r Llyfgrell Genedlaethol yng nghwmi Fflur Dafydd yn ddiweddar.
Asia Rybelska sy’n trafod ei chariad mawr at lyfrau.
Yr wythnos hon, hoffwn ddweud mwy am fy niddordebau, gan gychwyn â llenyddiaeth.
Fel y byddwch efallai wedi dyfalu, llyfrau ydy fy mhrif gariad o ran diddordebau, a dechreuodd popeth pan oeddwn tua phump oed, sef pryd y cychwynnais ddarllen ar fy mhen fy hun.
Y llyfrau cynnar
Pan oeddwn yn iau, roeddwn yn arbennig o hoff o lyfrau antur oedd yn ymwneud â’r byd natur felly roeddwn yn ffan o lyfrau Jules Verne, yn enwedig ‘The Mysterious Island’. Fe’i darllenais am y tro cyntaf pan oeddwn yn wyth oed. Roeddwn yn mwynhau’r darllen, ond dwi’n credu nad oeddwn mewn oed i ddeall rhai o agweddau’r llyfr, fel y wleidyddiaeth.
Yn ychwanegol, roeddwn yn hoff iawn o lyfrau Mr a Mrs. Centkiewicz, sy’n disgrifio bywyd yn y Spitsbergen neu Begwn y Gogledd. Fy hoff gyfrol ganddynt oedd ‘Na Podbój Arktyki’, sy’n ddisgrifiad ymdrechion i gyrraedd Pegwn y Gogledd drwy’r canrifoedd. Ond wrth i’r llyfr gael ei ysgrifennu yn y pumdegau, roedd yna ran amlwg i Gomiwnyddion ‘gor-ddewr’ a’u llwyddiannau ym mhob agwedd. Diolch byth, doedd dim rhaid imi boeni am y rhan hon!
Hefyd, roeddwn yn dwli ar lyfrau am Tomek Wilmowski, hogyn ifanc dewr a oedd yn byw efo’i fodryb a’i ewythr yn Warszawa, tra bo ei dad yn teithio o gwmpas y byd yn casglu anifeiliaid ar gyfer sŵau. Wrth gwrs, ymunai’r bachgen ag o ar ei deithiau, a phrofi nifer o anturiaethau ar bob cyfandir.
Darganfyddiad amhrisiadwy
Wedyn, pan oeddwn yn ddigon hen i gael cerdyn llyfrgell fy hun, darganfyddais fyd newydd sbon llawn o ddirgelion a bydoedd eraill.
Erbyn hyn, mae gen i gardiau yn y chwe changen o’r llyfrgell ym Mhoznań, ac yn amlach na pheidio dwi’n eu defnyddio nhw i gyd a chael benthyg mwy nag ugain llyfr ar y tro.
Y silff ffantasi fydd y gyntaf i mi ymweld â hi ym mhob llyfrgell.
Pwy sy’n deilwng?
Cyfrolau gan awduron o Wlad Pwyl rwy’n eu darllen yn bennaf, gan mai nhw sy’n ysgrifennu’n fwyaf addas i’m hanghenion esthetig.
Fy hoff awduron ydy Maja Lidia Kossakowska (a’i llyfr gwych am angylion sy’n gorfodi cadw trefn ar y Ddaear ar ôl i Dduw ddiflannu) a Jacek Piekara (sydd, yn y bôn, yn cymysgu popeth sy’n ddilys ym myd ffantasi ac mae ei lyfrau’n amrywiol dros ben).
Ond rwy’n darllen llyfrau gan awduron o wledydd eraill hefyd. Fy ffefrynnau ydy, wrth gwrs, J. R. R. Tolkien (Y Meistr), Neil Gaiman a Terry Pratchett. Mae rhyddiaith y cyntaf yn rhagorol, a’i ddychymyg yn anhygoel, ac mae (a bydd) ‘Lord of the Rings’ heb ei debyg. O ran y ddau arall, dwi’n dwli ar lyfr o’r enw ‘Stardust’ gan Gaiman, a’r gyfres am Discworld gan Pratchett.
Ar y cyfan, fy mwriad wrth ddarllen ydy darganfod llyfrau newydd a fyddai’n dangos pethau annisgwyl imi. Felly, dwi’n ceisio darllen mor aml â phosibl, hyd yn oed pan nad oes gen i ddigon o amser i wneud dim byd arall!
Mae Asia Rybelska yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Poznan yng Ngwlad Pwyl sy’n treulio’r haf ar leoliad gyda chwmni Golwg.
Gallwch ddarllen colofn ‘Pobol’ a diwylliant’ ganddi yn crynhoi ei phrofiadau hyd yn hyn yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.