Bydd bob plentyn ym Mhrydain yn cael eu brechu rhag y ffliw o dan gynllun newydd gan y Llywodraeth.
Daw hyn wedi i arbenigwyr ddweud y gallai arbed 2,000 o fywydau’r flwyddyn.
Disgwylir i’r cynllun ddechrau yn 2014, a bydd pob plentyn rhwng 2 ac 17 oed yn derbyn brechlyn drwy chwistrell drwynol.
Bydd plant iau yn derbyn y chwistrell gan feddyg lleol, a phlant hŷn yn yr ysgol.
Ar y funud, mae pobl dros 65 oed, merched beichiog a phobl sydd â chyflyrau meddygol arbennig, gan gynnwys plant, yn gymwys am bigiad ffliw tymhorol.
Os fydd y cynllun, sy’n debygol o gostio £100 miliwn y flwyddyn, yn mynd yn ei flaen fel y disgwyl, Prydain fydd y wlad gyntaf i gynnig brechlyn ffliw i blant iach am ddim.