Hana Medi
Mae Hana Medi Morris yn fyfyrwraig 19 oed ym Mhrifysgol Caerdydd. Gyda’i blwyddyn gyntaf yn astudio Gwleidyddiaeth a’r Gymraeg wedi dod i ben, mae Hana ar fin cychwyn ar daith arbennig gyda Chwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd o amgylch Cymru. Hi sy’n chwarae’r prif gymeriad yn y sioe gerdd uchelgeisiol, S’neb yn Becso Dam, sy’n seiliedig ar record hir y band adnabyddus Edward H Dafis.
Dros yr wythnosau nesaf, byddaf i a dros hanner cant o ieuenctid Cymru yn paratoi a pherfformio sioe a fydd yn binacl digwyddiadau Theatr Ieuenctid yr Urdd dros y tair blynedd diwethaf. Boed yn actorion, aelodau band, cynorthwywyr cefn llwyfan neu yn dechnegwyr, byddwn yn clymu at ein gilydd ac yn cyflwyno sioe ‘S’neb yn Becso Dam’ sydd wedi ei seilio ar albwm Edward H Dafis o’r un enw.
Yn Haf 2010 cychwynnodd y cwmni ar daith tair blynedd, gyda gweithdai a chyrsiau preswyl yng Ngogledd, De a Chanolbarth Cymru. Erbyn 2011, cynhaliwyd cyrsiau gyda pherfformiadau bychan ar ôl bob cwrs i arddangos eu gwaith, roeddent eto wedi rhannu ar draws Cymru, yn Llangrannog, Caerdydd a Glan llyn.
Felly dyma ni wedi cyrraedd pen llanw’r daith, sioe ‘Sneb yn Becso Dam’. Mae’r sioe yn argoeli i fod yn un llwyddiannus ac yn sicr un sydd wedi ein herio fel cast. Yn ymdrin â themâu cyfoes, mae’r sioe yn dilyn stori Lisa Pant Ddu sydd yn ysu am adael ei chynefin yn y wlad i ddarganfod byd drygionus y ddinas.
Fi sydd yn chwarae rhan Lisa yn ein sioe. Mae chwarae cymeriad Lisa yn fraint ac mae ei chefndir yn un rwy’n gallu uniaethu gyda am y ffaith fy mod i wedi gadael fy nghynefin i fynychu’r brifysgol yng Nghaerdydd. Mae hi’n cynrychioli’r genhedlaeth ifanc sydd eisiau gadael eu cynefin i fynd i weld beth sydd gan y ddinas fawr i gynnig. Ond wrth gwrs mae Lisa yn gadael am y ddinas heb wybod beth sydd o’i blaen ac mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth iddi wrth i ddylanwad drwg cymeriad Y Siwt cael y gorau ohoni.
Cafodd caneuon Edward H Dafis eu cyfansoddi ymhell cyn imi gael fy ngeni. Ond mae geiriau’r caneuon yn sicr yn ychwanegu at gyfoeth y sioe, mae geiriau’r caneuon hyd heddiw’r un mor berthnasol ag yr oedden nhw nôl yn y 70au. Rydyn ni fel cast wrth ein boddau yn canu’r caneuon – wrth fynd ‘Ar y Ffordd’ neu berfformio ‘Angau’ neu ‘Sneb yn Becso Dam’. Mae’r ffaith ei bod yn trafod materion cyfoes yn apelio atom ni gyd ac mae hyn yn sicr wedi bod yn gymorth wrth ymarfer.
Un o’r pethau arbennig am y sioe yma yw ei fod yn cynnig cyfleodd i bobl ifanc ledled Cymru i ymwneud â cherddoriaeth ddiwylliannol y 70au. Mae’n sioe sy’n bendant am apelio at gynulleidfaoedd o bob oedran oherwydd ei cherddoriaeth a’i gwreiddioldeb. Yn sicr, mae bod yn rhan o gwmni o’r fath yn anrhydedd ag yn her, ond i fi does dim gwell na’r wefr wrth gamu ar lwyfan tu blaen gynulleidfa!
Gallwch weld S’neb yn Becso Dam yn Theatr Lyric Caerfyrddin (11 Gorffennaf), Sherman Cymru Caerdydd (13 Gorffennaf) a Phafiliwn Rhyl (16 Gorffennaf). Archebwch eich tocyn ar wefan yr Urdd – www.urdd.org/eisteddfod – neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r theatrau.