Yn cyflwyno …. Marta Klonowska
Marta Klonawska yw’r ail o’r tair myfyrwraig o Wlad Pwyl sy’n treulio cyfnod ar leoliad gwaith gyda chwmni Golwg dros yr haf.
Marta ydw i. Dw i’n 23 ac yn dod o Wlad Pwyl.
Mae rhan fwyaf o’m diddordebau’n ymwneud â llenyddiaeth a cherddoriaeth. Dw i’n hoff o gerddoriaeth glasurol, yn enwedig cerddoriaeth piano, a cheisio canu’r offeryn fy hun heb fawr o lwyddiant hyd yn hyn, yn anffodus.
Ond y peth ydw i’n fwyaf hoff ohono yw dysgu ieithoedd ac felly bod yn gyfieithwraig oedd fy mreuddwyd fwyaf ers amser ysgol.
Cymraeg yw’r drydedd iaith rydw i wedi bod yn dysgu, ar ôl Saesneg ac Almaeneg.
Er fy mod i’n mwynhau dysgu’r ieithoedd hyn, am ryw reswm neu’r llall, pan ddaeth amser dewis maes fy astudiaethau yn y brifysgol, roeddwn i’n awyddus i roi cynnig ar ieithoedd tu allan i brif ffrwd. Yn y diwedd, penderfynais ar astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań ac nid oeddwn i’n edifaru’r dewis erioed yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Dw i’n credu bod Cymraeg yn iaith hyfryd a dwi wastad yn cael fy syfrdanu gan ei chywreindeb a chyfoeth.
Ar hyn o bryd rydw i’n ddigon hyderus i geisio cyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith o Gymraeg i Bwyleg, a’r ffordd arall, ac mae’r gwaith yn bleser mawr imi bob tro.
Dw i’n tueddu credu bod rhaid i ryw gysylltiad cudd fodoli rhwng Cymraeg a Phwyleg wrth ystyried pa mor naturiol yw trosi o un iaith i’r llall o gymharu ag ieithoedd eraill oeddwn i’n dysgu (efallai mai Celtiaid hynafol a oedd yn byw ym Mhwyl sydd ar fai?).
Disgwyliadau o Gymru
Ond wrth gwrs ni fydd addysg brifysgol yn ddigon i ddod yn gyfarwydd gydag unrhyw iaith sy’n greadur byw – yn hwyr neu’n hwyrach bydd angen cwrdd â hi yn ei hamgylchedd naturiol.
Yr haf diwethaf, ar ôl tair blynedd o ddysgu Cymraeg yn y Brifysgol, cefais gyfle cyntaf i ddod i Gymru.
O’r holl leoedd y llwyddais i weld yn ystod yr wythnos honno, Aberystwyth greodd yr argraff fwyaf arna’i a chofiaf imi ddweud wrth fy ffrind: “Rhaid imi fyw yma rywbryd”.
Nid oeddwn yn disgwyl y byddai fy nymuniad yn dod yn wir mor fuan ag eleni, gydag ysgoloriaeth a roddodd gyfle imi gael profiad gwaith gyda Golwg360 am gyfnod o dri mis.
‘Rydw i’n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn siawns i ehangu fy ngwybodaeth ynglŷn â llenyddiaeth a chyfyngau Cymraeg – mae gennyf ddiddordeb mawr ynddynt, ond mae’r mynediad iddynt yn eithaf cyfyngedig yn fy mamwlad.
Ond uwchlaw pob dim, dw i’n gobeithio dod i adnabod Cymru a’r Gymraeg yn well trwy gael blas o fywyd y gymuned a digwyddiadau diwylliannol yng Ngheredigion.