Yn Llundain ar ôl protestio yn swyddfeydd y BBC dros ddyfodol S4C y llynedd, roeddwn i’n ceisio esbonio wrth heddwas beth yw Cymdeithas yr Iaith. Ei ymateb oedd – “So a bit like Greenpeace for the Welsh language?”
Mae’n ddisgrifiad gwell na llawer, ond nid yw’n gymhariaeth berffaith o bell ffordd. Dwi’n aelod o fudiadau amgylcheddol a hawliau dynol ond dwi ddim yn cael yr un teimlad o berthyn ac adnabod na bod yn rhan ohonynt.
Wrth gwrs ei bod yn haws i fudiad yng Nghymru ymwneud a’i haelodau a’u tynnu i weithgaredd, ond mae i’r Gymdeithas ymdeimlad cryf a sicr o berthyn ac o allu gwneud gwahaniaeth. Mae’r gair “cymdeithas” ei hun yn hollol hanfodol i’n ffordd, a dydy “society” ddim yn ei gyfleu ryw ffordd.
Llwyddiant y mudiad
Ers ein sefydlu gan lond llaw o bobl mae’r Gymdeithas wedi cael effaith ddi-gwestiwn ar lywodraeth San Steffan a Chaerdydd – o ennill S4C i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg. Yn sicr, ni fyddai gan y Gymraeg statws swyddogol na’r Coleg Cymraeg heb ymdrechion y Gymdeithas. Felly, yn groes i’r ddamcaniaeth gonfensiynol, gallen ni ddadlau mai’r Gymdeithas yw’r mudiad lobio mwyaf llwyddiannus yn yr oes ddatganoledig.
Mae’r achlysur yn gyfle euraidd felly i ni ddiolch i’r holl ymgyrchwyr – o’r bobl sy’n ysgrifennu llythyrau i alw am wasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd wedi meddiannu swyddfeydd – pob un a wnaeth cymaint o wahaniaeth i’r iaith dros y blynyddoedd.
Pobl a chymunedau sydd yn dal i fod wrth wraidd ein gwaith a’n hymgyrchoedd. Rydym yn cydnabod ein lle fel mudiad sydd yn rhan o’r frwydr fyd-eang dros ryddid a chyfiawnder. Mae’n hymgyrchoedd, ein dulliau gweithredu a’n ffordd ni o fynd at bethau – popeth a wnawn a’r modd o’i wneud, yn adlewyrchu ein gwedd Gymreig a Chymraeg ni o’r frwydr ryngwladol honno.
Wrth i ni droi ein golygon at ein hanner canmlwyddiant llynedd fe wnaethon ni ddarlledu darlith Tynged yr Iaith 2 oedd yn herio: “Ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl fydd y Gymraeg?”. Mae’n cymunedau yn dod yn ffocws i’n holl ymgyrchu felly.
‘Cymunedau mewn argyfwng’
Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg – gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001. Mae ein cymunedau Cymraeg mewn argyfwng felly, ac mae’n rhaid i bawb – o’n cynghorau cymuned reit lan i’r Cynulliad – sylweddoli bod angen trawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau.
Dyna pam y byddwn yn trefnu taith i dynnu sylw at ddyfodol ein cymunedau Cymraeg eleni. Mi fydd y daith – o’r enw Taith Tynged yr Iaith – yn dechrau ym Mis Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri. Mae’r Gymdeithas yn annog unrhyw grwpiau cymunedol a fyddai â diddordeb i fod yn rhan o’r daith i gysylltu â’r Gymdeithas ar post@cymdeithas.org.
Mae gyda ni nifer o ddatblygiadau cyffrous dros y flwyddyn, fe fyddwn yn lansio Sianel ar y we – Sianel 62 ar nos Sul, 19 Chwefror. Bydd Sianel 62 yn rhoi pwyslais ar gyfraniadau gan unrhyw un sydd eisiau gwneud. Nid ffordd o rannu negeseuon propaganda o’r top fydd Sianel 62 ond rhaglenni a chlipiau gan bwy bynnag sydd am gyfrannu a rhoi cyfle gwahanol i bobl gyfrannu at frwydr y Gymraeg a’n cymunedau fydd hi. Os hoffech gymryd rhan cysylltwch â ni trwy e-bostio greg@cymdeithas.org.
Rydym hefyd yn trefnu gwyl HannerCant gyda phumdeg o artistiaid mewn dwy noson – am ragor o fanylion ewch at hannercant.com.
Dros y blynyddoedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi galluogi pobl i chwarae eu rhan a herio’r drefn sydd yn ein gwasgu, a gweld canlyniad eu gwaith caled. Trwy rannu profiadau a dysgu gan ein gilydd y gwnawn ni hynny. Gallwn ni wneud gwahaniaeth a gweld newidiadau graddol a sicr, ond gyda’n gilydd mae gwneud. Nid oherwydd i rywun beintio slogan neu oherwydd ambell gyfarfod yn unig y mae dyfodol yr iaith yn fwy sicr, ond oherwydd ymdrech barhaus torf o bobl barod eu gwaith a’u hymdrech.
Hanfod Cymdeithas yr Iaith felly yw y “gymdeithas” o bobl – a diolch amdanynt, bob un.
Bethan Williams, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg