Aaron Shingler
Ar ôl ennill ei gap cyntaf dros ei wlad ddoe, mae rheng-ôl y Scarlets, Aaron Shingler, yn dweud ei fod wedi gwneud y penderfyniad iawn i ddewis gyrfa rygbi yn hytrach na chriced.
Am gyfnod hir o’i yrfa chwaraeon ifanc, roedd Shingler yn rhoi blaenoriaeth i chwarae criced dros Forgannwg, ond penderfynodd newid cyfeiriad bum mlynedd yn ôl ac mae bellach yn sicr ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir.
“Roedd yn grêt i chwarae dros Gymru ac yn sicr mae wedi cyfiawnhau fy mhenderfyniad i ganolbwyntio ar rygbi yn hytrach na chriced.”
“Ro’n i gyda Morgannwg am rai blynyddoedd ac yn arfer chwarae rygbi am hwyl yn ystod egwyl y gaeaf.”
“Pryd ges i fy rhyddhau yn 2007 penderfynais i gymryd rygbi’n fwy o ddifrif ac aeth pethau’n dda a dyma ni lle rydw i nawr.”
Cap cyntaf annisgwyl
Cafodd Shingler ei ychwanegu’n hwyr i garfan hyfforddi Cymru ym mis Ionawr wedi perfformiadau disglair i’r Scarlets fel blaenasgellwr tywyll eleni.
Doedd y gŵr 6 troedfedd a 6 modfedd ddim yn rhan o’r garfan wreiddiol ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Alban ddoe, ond cafodd ei daflu’n syth i’r tîm wedi i’r capten, Sam Warburton fethu prawf ffitrwydd hwyr cyn y gêm.
Ar ben hynny, roedd i ennill ei gap cyntaf dros ei wlad yn safle anghyfarwydd y blaenasgellwr agored.
“Ro’n i wastad yn meddwl y byddai Sam yn ei gwneud hi, ond pan glywais i ddydd Sadwrn fy mod i’n mynd i chwarae ro’n i wedi cyffroi’n llwyr.”
“Roedd cyflymder y gêm yn rhywbeth hollol newydd i mi, ond yr unig newid mawr o chwarae yn fy safle arferol oedd gorfod cyrraedd y ryc cyntaf o’r sgrym. Roedd yn brofiad y gwnes i fwynhau’n fawr.”
Hollt deuluol?
Yn addas iawn, roedd Shingler yn ennill ei gap cyntaf yn erbyn gwlad enedigol ei fam.
Roedd brawd bach Aaron, Steven Shingler yng nghanol ffrae rhwng undebau rygbi Cymru a’r Alban cyn y bencampwriaeth.
Roedd y brawd bach yn awyddus i chwarae dros yr Alban ac wedi ei enwi yn eu carfan ar gyfer y Chwe Gwlad cyn i Gymru brotestio gan ei fod eisoes wedi chwarae dros dîm dan 20 oed Cymru, ac felly ddim yn gymwys i chwaraei unrhyw wlad arall.
“Ges i neges yn dweud ‘da iawn’ gan fy mrawd bach Steve ar ôl y gêm” datgelodd Shingler.
“Pan oedden ni’n arfer gwylio rygbi fel teulu erstalwm roedd mam wastad yn cefnogi’r Alban, ond rwy’n credu ein bod ni wedi llwyddo i’r throi hi bellach.”