Gwellodd y lein ar ôl i Ken Owens ddod i'r cae.
Aled Price sy’n dadansoddi buddugoliaeth gyfforddus Cymru’n erbyn Yr Alban ddoe.
Dwy gêm a dwy fuddugoliaeth.
Fe fyddai pawb yng Nghymru wedi bod yn ddigon hapus gyda’r record honno cyn i’r bencampwriaeth ddechrau.
Dyna’n union sydd wedi digwydd ac mae Cymru nawr ond un fuddugoliaeth o sicrhau’r Goron Driphlyg. Ar ben hynny, mae gris arall ar yr ysgol aeddfedrwydd wedi ei ddringo gan dîm ifanc Warren Gatland.
Yn debyg i’r fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, nid oedd hwn yn berfformiad hollol berffaith, ond rhaid rhoi clod i dîm Yr Alban am hynny. Wnaeth Yr Alban ddim caniatáu i Gymru chwarae llawer o rygbi, ar wahân i’r cyfnod pan oeddynt lawr i 14 a 13 dyn. Roedd rhaid i Gymru amddiffyn, ac amddiffyn tipyn yn rhagor trwy gydol yr ornest. 178 tacl wedi eu cwblhau gan y Cymry o’i gymharu â 99 gan yr Albanwyr.
Roedd Cymru’n edrych yn hollol gyfforddus wrth amddiffyn, mewn gwirionedd, tacl ar ôl tacl, gan daro’r Albanwyr yn ôl. Roedd yr amddiffyn yn atgoffa dyn o’r amddiffyn y gwelsom ni wrth ennill y Gamp Lawn yn 2008 a hefyd yng Nghwpan y Byd yn yr hydref. Un dyn oedd yn enghraifft berffaith o’r hyn dwi’n sôn amdano, oedd Seren y Gêm, Dan Lydiate.
Lydiate yn Dychwelyd
Roedd ‘line speed’ Lydiate, fel maent yn dweud yn y Saesneg, yn rhagorol. Dro ar ôl tro fe glywsoch chwaraewyr yr Alban yn galw am gam sefyll, cymaint oedd ei gyflymder. O achos hyn, dro ar ôl tro roedd diffyg momentwm gan yr ymosodwyr ac roeddent yn sownd ryw bum medr tu ôl i’r llinell fantais. Fo oedd y prif reswm am gysondeb a chaledrwydd amddiffyn Cymru.
Mae rheng ôl ifanc Cymru wedi creu enw i’w hunain am eu techneg yn y dacl. Maent yn taclo’n isel sy’n negyddu momentwm a phŵer yr ymosodwyr. Aeth Heaslip ac O’Brien ar gwpl o garlamau’r wythnos diwethaf pan oedd Cymru heb eu prif daclwr. Roedd absenoldeb a phresenoldeb Lydiate yn amlwg yn y ddwy gêm agoriadol felly.
Cuthbert yn creu Argraff
Ar ôl ei gap cyntaf yn y bencampwriaeth, ro’n i’n amau os oedd Alex Cuthbert yn barod am y llwyfan rhyngwladol. Ar ôl ddoe dwi’n ymddiheuro am fod ag unrhyw amheuon – cafodd asgellwr y Gleision gêm wych. Roedd yr holl sôn cyn y gêm am George North ond Cuthbert oedd yr asgellwr gorau ar y cae. Sgoriodd ei gais cyntaf dros ei wlad wrth iddo bweru, à la North, trwy Greig Laidlaw druan.
Cafodd gwpl o rediadau da yn yr hanner cyntaf i gosbi cicio llac yr Albanwyr, ac yna helpodd i greu cais cyntaf Halfpenny efo rhediad gosgeiddig. Roedd o amgylch y cae trwy’r amser hefyd yn chwilio am waith. Dyfodol disglair rwy’n tybio, i’r gŵr a chafodd ei eni yng Nghaerloyw. Diolch Lloegr!
Chwaraewr arall a greodd argraff arna’i oedd bachwr y Scarlets, Ken Owens. Fe welsom yn Nulyn pa mor sigledig mae lein Cymru’n gallu bod. Nid oedd unrhyw welliant yn erbyn yr Alban tra’r oedd Huw Bennett yn taflu. Serch hynny, aeth Bennett bant o’r cae am driniaeth gwaed a gwellodd y lein yn syth.
Nid oedd pob un yn dda, ond roedd gwelliant amlwg i’w weld. Daeth Owens nôl i’r cae ar gyfer yr ail hanner ac fe barhaodd ei chwarae cadarn. Nid yn unig ei daflu, ond hefyd ei chwarae o amgylch y cae gan daclo a chario yn dda. Mae wedi gwneud digon, yn fy marn i, i ddechrau yn erbyn yr hen elyn. Cawn weld…
Chwaraewr Arall yn Dychwelyd
Fel Dan Lydiate, dod yn ôl o anaf oedd Gethin Jenkins. Ar wahân i Sam Warburton, Gethin yn fy nhyb i, yw’r blaenwr gorau sydd gennym yn ardal y dacl, ac roedd hyn yn amlwg o’r dechrau ddoe. Enillodd o leiaf dair pêl yn ardal y dacl ac mae ei gyfraniad o amgylch y cae bob amser yn creu argraff. Sgrymiodd yn dda a dangosodd ei werth i’r tîm cenedlaethol unwaith yn rhagor.
Cymry Ifanc yn Aeddfedu
Rhaid cofio nad oedd Sam Warburton ar gael i Gymru, ar ôl iddo dynnu allan yn hwyr wedi methu prawf ffitrwydd. Trueni bod Justin Tipuric hefyd wedi’i anafu ar ôl gêm wych wythnos diwethaf, ond dirprwyodd Aaron Shingler yn rhagorol ar ei gap cyntaf. Fel y dywedodd Gatland, mae’n adlewyrchu pa mor gyflawn ac aeddfed yw ei dîm, wrth i golli eu capten cyn y gêm gael dim effaith ar eu chwarae.
Felly perfformiad clinigol a didostur gan Gymru. Mewn cyfnod o 15 munud collodd Yr Albanwyr eu pennau a dau yn mynd i’r gell cosb. Sgoriwyd 21 o bwyntiau yn y cyfnod hwnnw gan Gymru i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae taith i Dwickenham yn wynebu’r Cymry nawr. Ar ôl buddugoliaeth hynod o lafurus gan Loegr yn erbyn yr Eidal, does dim rheswm pam na all Cymru groesi dros hanner ffordd at y Gamp Lawn mewn cwpl o wythnosau.
Gallwch ddarllen sgoriau’r chwaraewyr allan o 10 fan hyn.