Dan Lydiate - haeddu 'seren y gêm'
Aled Price sy’n asesu perfformiadau unigol chwaraewyr Cymru’n erbyn yr Albanwyr.
Leigh Halfpenny (9) – Cicio gwych at y pyst, dau gais ac yn edrych am waith trwy’r amser. Oni bai am Lydaite fe fyddai wedi cael ei enwi’n Seren y Gêm.
Alex Cuthbert (8) – Cais cyntaf i’r gŵr ifanc wrth iddo dangos ei bŵer gyda chwpl o rediadau pwerus arall. Ei bas ef greodd gais cyntaf Halfpenny hefyd.
Jonathan Davies (8) – Mae’n edrych fel petai’n maeddu’r dyn cyntaf bob tro. Croesi’r llinell fantais yn gyson.
Jamie Roberts (6) – Gêm eithaf tawel oddi wrth Roberts. Dim digon o’i rediadau cryf i’w gweld.
George North (5) – Hefyd yn croesi’r llinell fantais dro ar ôl tro ond tacl enfawr gan Jim Hamilton yn cyfrannu at anaf a achosodd iddo orfod gadael y cae ar yr hanner.
Rhys Priestland (7) – Gêm ddigon tawel am faswr ond ciciodd yn dda ar y cyfan o’r dwylo, a dwylo da i helpu creu y ddau gais agoriadol.
Mike Phillips (6) – Mae pasio eithaf araf gan Phillips yn edrych fel petai’n arafu gêm Cymru ar brydiau. Nid ei gêm orau.
Gethin Jenkins (8) – Gwych o amgylch y cae ac yn ardal y dacl. Sgrymio’n dda hefyd.
Huw Bennett (5) – Methodd wella o anaf yng nghanol yr hanner cyntaf, a chafodd ei eilyddio ar hanner amser. Taflu mewn i’r lein dal i fod yn broblem – gwellodd hynny gyda dyfodiad Ken Owens
Adam Jones (6) – Taclo da trwy gydol yr ornest gan brop y Gweilch. Sgrym yn gadarn efo fo a Jenkins.
Ryan Jones (7) – Capten am y dydd yn absenoldeb Warburton. Ennill bêl dda yn y lein a gweithio’n galed o amgylch y cae.
Ian Evans (6) – Problemau o’r ailddechrau yn dal i fod yn broblem ond cyfraniad da ac yn dal y lein i’w gilydd fel yr unig glo rheolaidd.
Dan Lydiate (9) – Haeddu ei enwi’n Seren y Gêm. Ymdrech arwrol yn amddiffyn – mae’r tîm yn wannach pan nad yw’n chwarae.
Aaron Shingler (7) – Cap cyntaf digon cadarn i flaen asgellwr y Sgarlets. Dangos ei gefndir yn y gêm saith bob ochr efo’i gyflymder.
Toby Faletau (7) – Rhai rediadau pwerus gan yr wythwr. Chwaraeodd rôl bwysig yn ail gais Halfpenny wrth iddo pasio o fôn y sgrym.