Ryan Jones, capten Cymru heddiw
Cymru 27 – 13 Yr Alban

Mi wnaeth Cymru ddod allan ar ddechrau’r hanner â thân yn eu boliau a phenderfyniad ym mhob cam.

Ac fe wnaethon nhw ddisgleirio yn nhrydydd chwarter y gêm, gan sicrhau buddugoliaeth i Gymru, er bod yr Alban wedi brwydro nôl yn ddewr.

Wnaethon nhw ddim rhoi’r ffidil yn y to ar ôl i Leigh Halfpenny sgorio dau gais, ac Alex Cuthbert un cais.

Mi roedd Hogg, rhif 10 yr Alban, yn rhedeg yn dda ac o’r diwedd fe gawson nhw eu haeddiant gyda Greg Laidlaw yn sgorio cais – y cais cyntaf iddyn nhw sgorio mewn pum gêm.

Ond diwrnod y Cymry oedd hi. Doedd hi ddim yn hawdd, ond y Crysau Coch wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth. Cyfnod o orffwys yn awr, ac yna bydd ffocws pawb ar Twickenham, a’r gobaith am goron driphlyg arall yn dechrau blodeuo yng nghalon y Cymry.

Bydd adroddiad manwl am y gêm gan ein harbenigwr chwaraeon yn ymddangos yn fuan.