Leigh Halfpenny
Cymru 27 – 13 Yr Alban

Sgoriodd Leigh Halfpenny 22 bwynt wrth i Gymru guro’r Alban yn Stadiwm y Mileniwm heddiw.

Bachodd cefnwr y Gleision ddau gais gan ychwanegu 12 o bwyntiau gyda’r droed at y cyfanswm.

Un arall o gefnwyr y Gleision, Alex Cuthbert, sgoriodd y cais arall – ei gyntaf yng nghrys coch Cymru.

Cyhoeddwyd cyn y gêm bod capten Cymru, Sam Warburton wedi methu prawf ffitrwydd ac na fyddai’n chwarae o ganlyniad.

Aaron Shingler o’r Scarlets ddechreuodd y gêm yn safle’r blaenasgellwr agored felly’n ennill ei gap cyntaf dros ei wlad yn erbyn gwlad ei fam, sy’n enedigol o Dumfries.

Er gwaethaf hanner cyntaf cyffrous gyda’r ddau dîm yn chwarae gêm agored ac ymosodol, dim ond 3-3 oedd y sgôr ar yr hanner.

Os rhywbeth, Yr Alban oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf a hwy reolodd y meddiant.

Er hynny, ar ôl dim ond dwy funud o’r ail hanner roedd Cymru ar y blaen wrth i Cuthbert durio.

Ddwy funud yn ddiweddarach roedd Yr Alban lawr i 14 dyn wrth i Nick De Luca weld carden felen am daclo Jonathan Davies heb y bêl.

Manteisiodd Cymru ar hynny gan sgorio ail gais wedi 50 munud – Cuthbert yn creu i Halfpenny y tro yma.

Yn fuan wedyn roedd Yr Alban lawr i 13 dyn gyda charden felen i Rory Lamont am daclo Hook ac yntau’n camsefyll.

Daeth trydydd cais Cymru o sgrym yn agos at linell gais yr Albanwyr – Faletau a Phillips yn cyfuno’n dda wrth y bôn i roi Halfpenny’n glir am ei ail gais.

Sgoriodd maswr Yr Alban, Greig Laidlaw gais cysur i’r ymwelwyr wedi 62 o funudau ond roedd y gêm fwy neu lai’n saff i’r Cymry erbyn hynny.