Cymru: 3      3: Yr Alban


Leigh Halfpenny
Ffiw! Mae’r ddau dîm wedi bod yn chwarae’n gyflym ac yn agored yn hanner cyntaf y gêm fawr yn Stadiwm y Mileniwm pnawn ma.

Ond ar waetha’r ymdrech a chyffro, does dim un cais wedi cael ei sgorio. Mi giciodd Laidlaw gic gosb i’r Alban ar ôl 20 munud, ac yna 10 munud yn ddiweddarach fe giciodd Leigh Halfpenny gic gosb hyfryd.

Fe ddaeth yr Alban yn agos iawn at sgorio cais ym munudau ola’r gêm tra roedd Cymru i lawr i 14 dyn ar ôl i George North gael ei anafu. Ond, unwaith eto, mi wnaethon nhw fethu, ac roedd golwg rhwystredig iawn ar wyneb eu hyfforddwr, Andy Robinson, ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Y newyddion drwg ydy fod George North wedi gorfod gadael y cae oherwydd anaf i’w goes. Y newyddion da ydi fod Aaron Shingler ac Alex Cuthbert wedi chwarae’n dda yng nghanol berw’r Stadiwm.