Beth fydd yn digwydd ar noson yr etholiad, a phryd?
Dyma ganllaw Ifan Morgan Jones i’r seddi pwysig i gadw golwg arnyn nhw, yng Nghymru a thu hwnt…
10pm
Bydd polau piniwn y BBC, ITV a Sky, wedi eu cynnal y tu allan i’r gorsafoedd pleidleisio wrth i bobol adael, yn cael eu cyhoeddi. Fe fydden nhw’n rhoi’r syniad cyntaf i ni pa blaid sydd wedi mynd a hi, neu o leiaf pa seddi sy’n debygol o newid dwylo.
11pm
Dylai’r etholaeth gyntaf ddatgan pwy yw’r enillydd tua’r adeg yma. Sunderland South oedd y cyntaf yn 2005 ond dyw’r etholaeth yna ddim yn bodoli bellach. Bydd Houghton and Sunderland South a Sunderland Central yn cystadlu am y wobr eleni. Mae hon yn sedd Lafur y gallai’r Ceidwadwyr ei hennill ar noson dda – ac fe fyddai’n ddechrau noson ddrwg i Lafur.
12am
Bydd y sedd gyntaf yn yr Alban, Rutherglen and Hamilton West, yn datgan y canlyniad tua’r adeg yma. Mae hon yn ras dau geffyl rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur ac fe allai ddangos a ydi Cleggmania wedi cael unrhyw effaith!
12.30am
Dylai Llafur golli ei sedd gyntaf yn Birmingham Edgbaston, lle mae’r Ceidwadwyr angen 2% yn fwy o bleidleisiau.
12.45am
Dylai Llafur golli’r sedd gyntaf i’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn Newcastle Upon Tyne Central. Mae’r Dems Rhydd eisoes yn rheoli’r cyngor yno.
1am
Y seddi cyntaf yng Nghymru yn cyhoeddi’r canlyniadau. Pen y Bont ar Ogwr fydd un o’r cyntaf. Dylai Llafur dal gafael arni, gyda’r Ceidwadwyr yn ail.
Yn fuan wedyn bydd Ogwr yn cyhoeddi’r canlyniad. Unwaith eto, dylai Llafur dal gafael ar hon.
Dylai Dyffryn Clwyd gyhoeddi’r canlyniad tua’r adeg yma hefyd. Bydd hon yn frwydr agos iawn rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr, ond dylai’r Ceidwadwyr ei chipio hi.
Dylai Ynys Môn gyhoeddi tua rŵan. Mae Plaid Cymru yn gobeithio’n arw disodli Llafur yn y sedd hon ac fe fydd yn ddechrau noson dda i’r blaid os ydyn nhw’n llwyddo.
Bydd y seddi yn dechrau cael eu cyhoeddi’n gyflym iawn erbyn hyn. Bydd rhaid i David Cameron ennill seddi fel Tooting, lle mae angen newid pleidlais 6% o Lafur i’r Ceidwadwyr (tua’r un faint sydd ei angen ar draws Prydain), os ydi o eisiau bod yn Brif Weinidog.
Mae Angus yn nwylo’r SNP ond mae’r Ceidwadwyr yn ei thargedu hi. Bydd y sedd yn rhoi ryw syniad ai’r SNP neu’r Ceidwadwyr sydd am gael noson dda yn yr Alban.
Mae sedd arall wnaeth y blaid Lafur ei gipio o’r Ceidwadwyr yn 1997 yn debygol o gael ei cholli – Battersea yn Llundain.
1.30am
Bydd Plaid Cymru yn gobeithio ennill sedd newydd Arfon. Byddai colli i Lafur yn drychineb iddyn nhw. Fe allai’r 30 munud rhwng Ynys Môn ag Arfon benderfynu sut noson ydi hi i’r blaid.
Bydd Islwyn yn cyhoeddi’r canlyniad. Sedd saff arall i Lafur fwy na thebyg.
Bydd Torbay, ras agos rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn datgan pwy sydd wedi ennill. Mae angen ennill seddi gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr ardal yma i’r Ceidwadwyr sicrhau mwyafrif yn San Steffan. Os nad ydyn nhw’n llwyddo fe fydd yn arwydd bod Cleggmania wedi ennill y dydd.
2am
Bydd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cyhoeddi’r canlyniad. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio cadw gafael ar hon ond bydd y Ceidwadwyr yn eu herio nhw.
Bydd y sedd drws nesaf i Frycheiniog, Maldwyn, hefyd yn cyhoeddi’r enillydd. Unwaith eto bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio ei chadw hi o grafangau’r Ceidwadwyr.
Nol i’r Cymoedd, a dylai Torfaen fod wedi cyhoeddi erbyn hyn. Sedd arall weddol saff i Lafur, gyda’r Ceidwadwyr yn ail.
Fyny i Wrecsam, ble mae Llafur yn ceisio atal y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr rhag ennill tir.
2.30am
Bydd disgwyl i Guto Bebb gipio sedd newydd Aberconwy o afael y Blaid Lafur. Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn y ras.
Dylai Gogledd Caerdydd gyhoeddi tua’r un pryd. Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr gipio’r sedd o afael y blaid Lafur, a gwraig cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, Julie.
Bydd Bro Morgannwg hefyd yn cyhoeddi nawr, ac mae Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn weddol hyderus ynglŷn â chipio’r sedd oddi ar y blaid Lafur.
Draw i Blaenau Gwent, ble y mae hi’n ras agos iawn rhwng ymgeisydd Llais y Bobol Dai Davies a Llafur.
Gorllewin Casnewydd fydd yn cyhoeddi nesaf – sedd agos iawn rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.
Dwyrain Casnewydd sydd nesa’. Dylai Llafur ennill ond fe allen nhw wynebu her gref gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Bydd sedd saff gan y Democratiaid Rhyddfrydol, Canol Caerdydd, hefyd yn cael ei chyhoeddi.
Ac fe ddylai Alun Michael gadw ei afael ar Dde Caerdydd a Phenarth, gyda rhywfaint o her gan y Ceidwadwyr.
Bydd Elfyn Llwyd wen o glust tua’r adeg yma wrth i Blaid Cymru gadw eu gafael ar sedd Dwyfor Meirionydd.
A bydd sedd arall saff i’r Blaid Lafur, Merthyr Tudful, yn cyhoeddi.
Preseli Penfro fydd un o’r nesaf yn cyhoeddi. Dylai’r Ceidwadwyr ennill yn weddol saff.
Ar lefel Brydeinig, os ydi’r Ceidwadwyr yn cipio Kingswood fe allen nhw fod wedi pasio’r marc 326 sedd sydd ei angen ar gyfer mwyafrif yn barod.
3am
Bydd Ceredigion yn cyhoeddi tua’r adeg yma. Mae’n frwydr hynod o agos rhwng Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol a does gan neb syniad pwy eith a hi.
Dylai Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gyhoeddi hefyd. Mae Simon Hart o’r Ceidwadwyr yn ffefryn i gipio’r sedd oddi ar y blaid Lafur.
Mae’r Ceidwadwyr yn weddol sicr o ddal eu gafael ar Orllewin Clwyd, gyda Llafur yn ail.
Gŵyr yn cyhoeddi. Llafur enillodd y sedd yma yn 2005 ond fe fydd hi’n ras agosach rhyngddyn nhw’r Ceidwadwyr eleni.
Bydd Llanelli yn cyhoeddi tua’r adeg yma. Bydd Plaid Cymru yn gobeithio dymchwel mwyafrif Llafur yn y sedd yma.
Llafur sy’n dal sedd Gorllewin Abertawe ar hyn o bryd ond mae disgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol ei gipio oddi arnyn nhw heno.
Caerffili yn cyhoeddi, sedd arall saff i Lafur yn ne Cymru.
Gorllewin Caerdydd yn cyhoeddi. Dylai Llafur gadw’r sedd gyda’r Ceidwadwyr yn herio.
Bydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr hefyd yn cyhoeddi tua’r adeg yma. Sedd weddol saff i Blaid Cymru, wrth i Jonathan Edwards gymryd lle Adam Price.
Llafur yw’r ffefrynnau yn Ne Clwyd ond mae’r Ceidwadwyr yn credu fod ganddyn nhw obaith.
Bydd Cwm Cynon hefyd yn cyhoeddi, sedd hynod saff i’r Blaid Lafur.
Ac fe fydd Mynwy yn cyhoeddi tua’r adeg yma hefyd. Sedd saff iawn i’r blaid Geidwadol yng Nghymru.
Bydd Pontypridd yn cyhoeddi’r canlyniad tua’r adeg yma. Sedd saff iawn i Owen Smith o Lafur, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail.
Rhondda yn cyhoeddi’r canlyniad. Sedd arall saff i’r Blaid Lafur ond fe fydd yn ddiddorol gweld sut mae Geraint Davies yn ei wneud dros Blaid Cymru.
Bydd Dwyrain Abertawe hefyd yn cyhoeddi. Dylai Llafur dal eu gafael ar hwn yn wyneb her gan y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ar lefel Brydeining, fe allai’r Blaid Werdd sicrhau eu AS cyntaf erioed yn Brighton Pavillion.
Oeddech chi’n effro pan gollodd Portillo ei sedd? Arhoswch i fyny tan 3am ac fe allech chi fod yn effro er mwyn gweld Ed Balls, aelod o gabinet Gordon Brown, yn cael ei, um, sbaddu yn Morley & Outwood.
3.30am
Ras tri cheffyl rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Delyn. Dylai Llafur fynd a hi.
Aberafan yn cyhoeddi. Sedd weddol saff i’r Blaid Lafur.
Castell-nedd yn cyhoeddi’r canlyniad, sedd arall ble mae Llafur ar y blaen ond lle y gallai Plaid Cymru sicrhau buddugoliaeth ar noson dda iawn.
Dylai David Cameron ail ennill ei sedd yn Witney. Fe allai ei araith ddatgelu beth fydd ei gam nesaf – ceisio ffurfio’r llywodraeth nesaf neu ddisgwyl i weld beth mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i’w wneud.
4am
Fe allai’r BNP ennill eu AS cyntaf erioed, y dyn o Lanerfyl ei hyn Nick Griffin, yn Barking.
Chesham & Amersham, sedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, os ydi’r Ceidwadwyr yn ffurfio’r llywodraeth newydd.
Dydd Gwener
Bydd 25 o’r seddi ddim yn dechrau cyfri tan fore dydd Gwener, gan gynnwys Cheltenham a Lancaster and Fleetwood – dau sedd mae’r Ceidwadwyr yn eu targedu. Felly mae’n berffaith bosib na fydd hi’n glir pwy a ydi’r Ceidwadwyr wedi cael mwyafrif tan bnawn dydd Gwener… felly ewch i’r gwely!