O hyn ymlaen, fe fydd rhaid i Aelodau Cynulliad ddatgan a ydyn nhw’n cyflogi perthnasau neu beidio.

Fe gafodd rheolau newydd eu derbyn yn ddiwrthwynebiad ddoe ar ôl adroddiad annibynnol yn sgil helynt lwfansau Tŷ’r Cyffredin.

Mae’r rheolau’n cynnwys cyflogi perthnasau agos – partneriaid, plant, wyrion, rhieni, teidiau a neiniau, brodyr neu chwiorydd, neiaint a nithoedd, ewythrod a modrybedd.

Maen nhw hefyd yn cynnwys perthnasau sy’n gweithio i ACau eraill.

Roedd ACau eisoes yn gorfod cynnwys swyddi eu partneriaid ar y gofrestr fuddiannau, yn ogystal â gwaith unrhyw blant dros 16 oed sy’n ddibynnol arnyn nhw.

Fe benderfynodd ymchwiliad annibynnol i gyflogau a threuliau ACau y dylai perthnasau sydd eisoes wedi eu cyflogi gael aros yn eu swyddi ond na ddylai neb gyflogi aelodau teulu o’r newydd.

Awyddi i gyflogi ei ferch, yn groes i safiad ei blaid, oedd un rheswm bod yr AC Mohammad Asghar wedi gadael Plaid Cymru am y Torïaid.