Am saith o’r gloch y bore yma, fe agorodd y bythau pleidleisio ar hyd a lled gwledydd Prydain ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol agosaf ers degawdau.

Mae’r polau piniwn olaf i gyd yn awgrymu na fydd yr un blaid yn cael mwyafrif clir, er bod y Ceidwadwyr yn gyson ar y blaen.

Ac mae yna ddau reswm arall tros ansicrwydd – y ffaith bod miliynau o bleidleisiau post eisoes wedi’u bwrw a bod nifer sylweddol o bobol yn dweud nad ydyn nhw wedi penderfynu eto.

Mae un arolwg yn awgrymu mai gan Lafur y bydd y nifer mwyaf o seddi er eu bod nhw ar ei hôl hi o ran cyfanswm y bleidlais.

Bargeinio

Os bydd senedd grog, gyda chynnydd yn seddi’r Democratiaid Rhyddfrydol, fe fydd arweinwyr y pleidiau’n dechrau ar gyfnod o drafod a bargeinio nad oes neb wedi gweld ei debyg.

Mae yna chwech o arolygon barn wedi eu cyhoeddi ar y funud ola’ a phob un ond un yn awgrymu mai’r Ceidwadwyr fydd y blaid fwya’ trwy wledydd Prydain.

Ond does dim un ohonyn nhw’n rhoi digon o seddi i David Cameron allu ffurfio llywodraeth gyda mwyafrif clir.

Dyma sgôr y pleidiau

• Y Ceidwadwyr yn amrywio rhwng 35 a 37 – fe fyddai hynny’n awgrymu rhwng 268 a 294 o seddi iddyn nhw.

• Llafur. Pleidlais: rhwng 27 a 29. Seddi: rhwng 248 a 274.

• Democratiaid Rhyddfrydol. Pleidlais: rhwng 26 a 28. Seddi: rhwng 77 ac 82.

Dim ond arolwg barn gan Harris oedd yn rhoi Llafur ar y blaen o ran nifer seddi; roedd y rhan fwya’ o’r gweddill yn awgrymu ei bod hi wedi colli ychydig o dir ar y diwrnod ola’.

Roedd arolwg Populus hefyd yn awgrymu bod 17% o bobol wedi newid eu meddwl oherwydd y dadleuon teledu rhwng yr arweinwyr Prydeinig.

Negeseuon yr arweinwyr

Roedd negeseuon ola’r tri arweinydd hwnnw yn union fel yr oedden nhw ar y dechrau.

“Ar ennyd o ddewis fel hyn ar gyfer ein gwlad, dw i’n gofyn i chi ddod yn ôl gartref at Lafur,” meddai Gordon Brown, gan rybuddio am beryglon dewis neb arall i adfer yr economi.

“Fotiwch i roi i’r wlad hon y gobaith, yr optimistiaeth a’r newid sydd eu hangen arni,” meddai’r arweinydd Ceidwadol, David Cameron.

“Anelwch yn uwch, peidiwch ag anelu am yr ail orau,” meddai’r Democrat Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Llun: Peidiwch mentro – Gordon Brown ar ddiwedd yr ymgyrch (Gwifren PA)