Mae tua dwsin o seddi yn debyg o newid dwylo yng Nghymru heddiw, yn un o’r Etholiadau Cyffredinol closia’ ers degawdau.
Canolbwyntio ar y rheiny yr oedd arweinwyr y pleidiau ddoe yn ystod diwrnod ola’r ymgyrchu, gyda’r unig arolwg barn diweddar yng Nghymru’n awgrymu y bydd Llafur yn colli seddi, y Ceidwadwyr yn ennill llond llaw a’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru’n gweld cynnydd bach.
Roedd eu hareithiau ola’n debyg i’w negeseuon ar hyd y rhan fwya’ o’r ymgyrch.
Ceidwadwyr
Fe alwodd arweinydd Prydeinig y Ceidwadwyr heibio i Gymru ddoe ar ei ruthr trwy holl wledydd Prydain.
Wrth siarad yn Y Drenewydd ym Maldwyn, fe ddywedodd David Cameron mai ychydig oriau oedd ar ôl “i achub y wlad rhag pum mlynedd arall o Gordon Brown”.
Llafur
Er bod y polau Prydeinig yn dweud fel arall, roedd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, yn honni bod symudiad hwyr i gyfeiriad y Blaid Lafur. Roedd yna deimlad ymhlith ei chefnogwyr bod angen mynd i bleidleisio, meddai.
Plaid
Roedd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn Llanelli, un o’r ddwy neu dair sedd y maen nhw’n gobeithio’u cipio, gan ddweud bod senedd grog – heb fwyafrif clir i neb – yn rhoi cyfle i bartneriaeth rhwng y Blaid a’r SNP yn yr Alban.
“Dyw Plaid Cymru erioed wedi bod mewn safle cyn gryfed i gael y fargen orau bosib i bobol Cymru,” meddai.
Democratiaid
Fe aeth arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, i Wrecsam, sedd sydd wedi codi’n sydyn yn rhestr eu gobeithion nhwthau.
Roedd hi’n mynnu bod perfformiad eu harweinydd Prydeinig, Nick Clegg, yn nadleuon teledu’r arweinwyr wedi agor yr etholiad yn llwyr.
Llun: David Cameron yn Ysgol Dafydd Llwyd Y Drenewydd ar ddiwrnod ola’r ymgyrch (Gwifren PA)