Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael 24 awr arall i holi brawd Ffion Wyn Roberts ynglŷn â’i llofruddiaeth hi.
Ond fe gafodd ei thad ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu neithiwr ar ôl iddo yntau gael ei holi am yr achos yn ystod ddoe ac echdoe.
Fe gafodd Elgan Roberts, 20 oed, ac Idris Roberts, 52, eu harestio yn gynnar fore Mawrth ar ôl i’r dditectifs fynd i’w cartref yn Stryd Newydd, Porthmadog.
Fe fu’n rhaid i blismyn gael caniatâd gan ynad er mwyn holi’r brawd am gyfnod pellach.
Cartref y teulu
Yno yr oedd Ffion Wyn Roberts yn byw hefyd ac fe gafwyd ei chorff mewn ffos o fewn ychydig gannoedd o lathenni i’r tŷ.
Fe gafodd car y teulu – Ford Fiesta gwyn – ei gymryd i ffwrdd er mwyn ei archwilio gan arbenigwyr fforensig.
Fe fydd angladd y weithwraig ofal yn digwydd ddiwedd yr wythnos yn y dref.
Apêl a theyrnged
Yn fuan ar ôl y llofruddiaeth, fe alwodd Idris Roberts ar i bobol ddod at yr heddlu gyda gwybodaeth am y digwyddiad.
Roedd y teulu i gyd wedi cyhoeddi teyrnged i Ffion Roberts ac wedi disgrifio’u galar ar ei hôl.
“Allwn ni ddim dechrau disgrifio sut y mae marwolaeth ein merch wedi effeithio ar y teulu,” medden nhw mewn datganiad. “Allwn ni ddim rhoi mewn geiriau pa mor drist yr ydan ni i gyd.”
Y cefndir
Fe gafodd Ffion Wyn Roberts ei gweld ddiwetha’n gadael tafarn yr Union yn Nhremadog yn oriau mân bore Sadwrn, Ebrill 10, ac fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff y prynhawn hwnnw.
Fe ddangosodd archwiliad post mortem ei bod hi wedi ei thagu gyda llinyn neu arf tebyg ac, efallai, wedi ei boddi.