Fe allai pleidleiswyr Gogledd Iwerddon benderfynu pwy sy’n ffurfio llywodraeth nesaf yn San Steffan, meddai Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd heddiw.
Mae’r blaid wedi galw ar unoliaethwyr i ddod allan i’w cefnogi, gan ddweud y bydden nhw’n gallu bod yn ddylanwadol pe bai yna Senedd Grog yn dilyn yr etholiad yfory.
“Mae popeth, dros yr wythnosau diwethaf, yn awgrymu mai Senedd Grog ydi canlyniad mwyaf tebygol yr Etholiad Cyffredinol,” meddai arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd, Peter Robinson, wrth bapur newydd y Belfast Telegraph.
“Dan yr amgylchiadau rheini mae’n amlwg y byddai Gogledd Iwerddon mewn lle gwell pe bai yna grŵp cryf, unedig o Unoliaethwyr Democrataidd a fydd yn gallu trafod i amddiffyn yr arian mae Ulster yn ei gael.”
Dywedodd fod Plaid Unoliaethol Ulster eisoes wedi cytuno i bleidleisio gyda’r Ceidwadwyr yn y senedd nesaf.
Ond doedden nhw ddim yn gallu esbonio pam bod arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, yn cyfeirio at Ogledd Iwerddon wrth drafod ffyrdd o dorri’r diffyg ariannol, meddai.
Dywedodd arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster bod y cytundeb gyda’r Ceidwadwyr yn golygu y byddai gan bleidleiswyr Gogledd Iwerddon ran i’w chwarae wrth ethol y llywodraeth nesaf.
Mae’r Ceidwadwyr wedi pwysleisio eu bod nhw’n canolbwyntio ar ennill y ras am Rif 10 Stryd Downing ac nad ydyn nhw wedi ystyried cytundeb gydag unrhyw blaid eto, gan gynnwys yr Unoliaethwyr Democrataidd.