Mae Nick Clegg wedi ymateb i ymdrech arall gan y Blaid Lafur i gyfyngu ar bleidleisiau’r Democratiaid Rhyddfrydol oriau yn unig cyn i’r gorsafoedd pleidleisio agor ar gyfer yr etholiad.

Bu’r Ysgrifennydd Gwladol, Alan Johnson yn ymosod ar Nick Clegg gan ei alw’n “ddyn balch” gan ddweud fod ei bolisïau’n “wallgofrwydd llwyr.”

Daeth yr ymosodiad wedi i ddwy noson o bolau piniwn roi’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y trydydd lle.

Ond, wrth siarad gyda phleidleiswyr heddiw, fe ddywedodd Nick Clegg nad oedd geiriau Alan Johnson yn ei boeni, a bu’n annog pobl i bleidleisio yn hytrach na siarad.

“Dychmygwch sut fyddech chi’n teimlo’n codi ddydd Gwener a Gordon Brown a’i Lywodraeth yn parhau mewn grym, ac yntau wedi eich gadael i lawr,” meddai.

Er bod y Ceidwadwyr ar y blaen yn ôl y polau piniwn diweddaraf, mae David Cameron wedi dweud nad yw’n cymryd dim yn ganiataol:

“Mae’n etholiad agos ac rwy’n brwydro am bob pleidlais…”