Guto Owen, myfyriwr o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth sy’n edrych ar y ras yn Llanelli…

Mae Llafur wedi dal sedd Llanelli ers wyth deg wyth o flynyddoedd. Mae’r etholaeth wedi bod yn goch bron cyhyd â Scarlets y Clwb Rygbi byd-enwog.

Ond, yn union fel y mae’r Scarlets wedi dechrau gwisgo cit gwyrdd oddi cartref y tymor yma, tybed allai’r etholaeth hithau newid  lliw eleni?

Ers i Lafur gipio’r sedd am y tro cyntaf, mae’r dref wedi gweld newidiadau mawr.  Mae’r diwydiannau trwm wedi cau. Mae un pwll glo bellach yn gwrs rasio ceffylau. Ac mae Parc y Scarlets wedi disodli Parc y Strade. Oes newid arall ar y gorwel yn Etholiad Cyffredinol 2010?

Llafur : Nia Griffith

Nia Griffith sydd wedi cynrychioli’r etholaeth ers pum mlynedd ar ôl maeddu Plaid Cymru gyda mwyafrif o dros 7,000 yn 2005.  Ond er gwaetha’r mwyafrif clir, dyma’r tro cyntaf i’r Blaid Lafur dderbyn llai na hanner y bleidlais yn Llanelli ers 1983. Olynodd hi Denzil Davies a oedd wedi bod yn Aelod Seneddol dros Lanelli am 35 mlynedd.  Ac er bod Nia Griffith wedi ei chynnwys ar restr o 30 cyn Aelodau Seneddol y mae’r Undeb y Frigâd Dân yn ei gefnogi yn yr etholiad eleni, nid yw ei chyd-aelodau yn yr etholaeth yn rhy ffyddiog y bydd hi’n cael dychwelyd i San Steffan i gynrychioli tre’r sosban.

Yn ôl gwefan Wales Online, mae  rhai o aelodau’r Blaid Lafur yn etholaeth Llanelli wedi anfon llythyr i fforwm polisïau pwyllgor gweithredu cenedlaethol y blaid.  Roedd y llythyr yn galw ar i’r blaid fabwysiadu cyfres o bolisïau Plaid Cymru, a hynny ar frys. Mae’r aelodau Llafur am  weld  mwy o reolaeth dros y banciau, rhoi’r gorau i adnewyddu Trident, blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau angenrheidiol ac anghofio am breifateiddio’r Post Brenhinol.  Arwyddwyd y llythyr yma gan ddarpar ymgeisydd Llafur yn y Cynulliad, Keith Davies.

Y neges amlwg yw bod y Blaid Lafur yn dechrau poeni am Lanelli.

Plaid : Myfanwy Davies

Bygythiad mwyaf y Blaid Lafur yn etholaeth Llanelli yw Plaid Cymru, sydd wedi dewis Myfanwy Davies fel eu hymgeisydd. Llanelli yw’r pedwerydd prif darged ar restr y blaid ac maen nhw’n gobeithio cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan yn ogystal ag ym Mae Caerdydd, ble mae Helen Mary Jones wedi ei hethol fel Aelod Cynulliad.  Enillodd Helen Mary Jones etholiad Cynulliad 2007 gyda mwyafrif o 3,884. Ond mae pobol yn tueddu i bleidleisio yn wahanol mewn etholiadau seneddol o’i gymharu ag etholiadau’r cynulliad, felly mae’n bosib na fydd hynny’n ddigon. Yn 2005 roedd gan Blaid Cymru 26.5% o’r bleidlais. A fydd Plaid yn adeiladu ar hynny a chipio etholaeth Llanelli?

Y Pleidiau Eraill

Er gwaetha llwyddiant Nick Clegg a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y dadleuon Brif Weinidogol, mi fyddai’n syndod mawr pe byddai Myrddin Edwards yn ennill yr etholaeth yma gan gofio mai pedwerydd oedden nhw yn etholiad cyffredinol 2005.

Dywed Christopher Salmon fod y Ceidwadwyr yn cynnig rhywbeth newydd ar ôl 88 mlynedd o reolaeth Llafur yn San Steffan, a bod y genhedlaeth iau yn awr yn barod i droi at y Ceidwadwyr er fod eu teuluoedd wedi arfer cefnogi Llafur.  Yn ôl ymgeisydd UKIP Andrew Marshall, mae pobl Llanelli a’r cylch wedi cael llond bol ar y Blaid Lafur . Maen nhw’n barod i bleidleisio i rywun newydd fel UKIP neu’r BNP i weld a fydden nhw’n medru gwneud gwahaniaeth go iawn.

Yr ymgeiswyr am sedd Llanelli yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Myfanwy Davies Plaid Cymru
Myrddin Edwards Democratiaid Rhyddfrydol
Nia Griffith Llafur
Andrew Marshall Plaid Annibyniaeth y DU
Christopher Salmon Ceidwadwyr

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Llafur 16,592 46.9
Plaid Cymru 9.358 26.5
Ceidwadwyr 4,844 13.7
Dems Rhydd 4,550 12.9